Bod yn ymgynghoriaeth broffesiynol o ansawdd uchel sy’n cynnig cyngor arbenigol ac annibynnol i fusnes ac sy’n gwneud gwahaniaeth.

Gweledigaeth a Gwerthoedd RHD

  • Gwneud gwahaniaeth

  • Gwelliant parhaus

  • Gwerth am arian

  • Canolbwyntio ar y cwsmer

  • Proffesiynol, cyfrinachol ac annibynnol

  • Ymchwil-ganolog, cadarn a thrwyadl

  • Arddel gonestrwydd, uniondeb a thryloywder

Ein pobl

Rydym yn ymfalchïo yn ein blynyddoedd o brofiad ac arbenigedd a gallwn ddefnyddio'r wybodaeth honno i'ch helpu chi yn y ffordd orau posibl. Boed yn hyfforddi a mentora, cyngor un i un arbenigol neu gymorth gyda reoli, byddwn yn helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn.

Mae Ymgynghoriaeth RHD yn tynnu ar ystod eang o arbenigwyr ar gyfer pob un o’i brosiectau.

Dewch i gwrdd â’r tîm.

RHD

 Dr Rachel Heath-Davies

Cyfarwyddwr Rheoli

Mae’r Dr Rachel Heath-Davies yn arweinydd a rheolwraig brofiadol. Mae’n meddu ar gyfoeth ac ystod o brofiad ymarferol ar draws ystod eang o sectorau – y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Gyda thros 25 mlynedd o brofiad mewn arweinyddiaeth strategol a gwaith polisi, mae Rachel wedi llunio cyfeiriad strategol nifer o feysydd yn llwyddiannus, gan gynnwys gweithredu newid yn y sector cyhoeddus, yn y maes addysg a chymwysterau, a’r iaith Gymraeg. Mae hi’n uwch arweinydd profiadol a chymwys, yn ogystal â bod yn athrawes gymwys, hyfforddwraig, asesydd, archwilydd, ymchwilydd a datblygwr polisi profiadol. Gyda Doethuriaeth mewn polisi addysg, mae ganddi wybodaeth bwnc arbenigol a dealltwriaeth gadarn ar draws y sectorau addysgu a hyfforddi, gan gynnwys ysgolion, AB, AU, Dysgu Oedolion yn y Gymuned a dysgu yn y gweithle. Mae hi wedi gweithio yn yr Adran Addysg, Llywodraeth Cymru, awdurdodau addysg lleol, Prifysgol Caerdydd, CBAC a Cymwysterau Cymru.

Gan ei bod hi wedi gweithio mewn llywodraeth leol a chanolog am dros bum mlynedd ar hugain, mae hi’n meddu ar brofiad helaeth a dealltwriaeth o’r maes datblygu, gweithredu a gwerthuso polisi ac mae ganddi gysylltiadau niferus yn y maes.

Yn Raddedig mewn Busnes o Ysgol Fusnes Caerdydd, aeth Rachel ymlaen i ddatblygu ei harbenigedd mewn busnes a sgiliau rheoli yn ei gyrfa lwyddiannus ac fe ddaeth yn Gyfarwyddwraig Reoli yn 30 oed. Mae ganddi sgiliau profedig a phrofiad yn y meysydd strategaeth, cynllunio busnes a chyllido, polisi, Adnoddau Dynol, economeg, cyfrifeg, seicoleg gwaith, marchnata a rheoli prosiectau.

Mae’n ymchwilydd ac archwilydd cymwys ac mae hi wedi cwblhau a chyhoeddi ymchwiliadau a phrosiectau ymchwil ar ran Llywodraethau cenedlaethol (Cymru a’r DU), llywodraeth leol, prifysgolion, cynghorau ymchwil, arbenigwyr ymchwil, yn ogystal â Swyddfa Archwilio Genedlaethol Cymru a Lloegr. Noddwyd ei Doethuriaeth gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Gwyddorau Cymdeithasol (ESRC) ac yr oedd ei Doethuriaeth yn ymchwil academaidd dwys i ddewisiadau ôl-16 yn y farchnad Addysg Bellach.

Fel ymgynghorydd profiadol, mae gan Rachel enw arbennig am gwblhau prosiectau ar amser, o fewn cyllideb benodol ac i safonau ansawdd uchel. Ei phrosiect cenedlaethol, mawr, mwyaf diweddar, oedd cynghori Llywodraeth Cymru ar weithredu Safonau cenedlaethol newydd y Gymraeg.

Unrhyw Gwestiwn?

Os hoffech gael unrhyw help neu ymgynghoriad cychwynnol am ddim, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni