Loading...
Newyddion2019-12-31T14:08:26+00:00

Newyddion

Ar y dudalen hon mae’r newyddion diweddaraf ac adnoddau a linciau defnyddiol. Os hoffech mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu.

Cyrsiau Arlein

Mae dosbarthiadau Cymraeg ar-lein wedi cwblhau’n llwyddiannus. Er y cyfyngderau oherwydd covid-19, aeth ein cyrsiau hyfforddiant yn y gweithle i gyd ar-lein yn syth a chwblhaodd y staff i gyd eu cyrsiau.

Gan |Tachwedd 5, 2021|Newyddion|

Tendr

Mae RHD Consultancy/ YmgynghorIAITH wedi ennill y tendr i ymgymryd â’r prosiect ymgynghoriaeth ar y Gymraeg ar ran Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Gan |Tachwedd 5, 2021|Newyddion|

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei chynigion i gryfhau seilwaith y Gymraeg.

Polisi cenedlaethol seilwaith ieithyddol y Gymraeg

Gan |Tachwedd 5, 2021|Dolenni Defnyddiol, Newyddion|

Y Gymraeg mewn addysg: Cynllun Gweithredu 2017 – 22

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Gynllun Gweithredu ar y Gymraeg mewn addysg ar gyfer y bedair blynedd nesaf. Mae’r Cynllun hwn yn un o’r cynlluniau gweithredu sydd yn deillio o’r strategaeth Cymraeg 2050 ac yn amlinellu sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae targedau yn y Cynllun ar sut i gynyddu niferoedd sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddu nifer a chapasiti athrawon i ddysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

http://gov.wales/docs/dcells/publications/171212-welsh-in-education-action-plan-2017-21-cy.pdf

Gan |Ionawr 2, 2018|Dolenni Defnyddiol, Newyddion|

Rhaglen Hyfforddiant

RHD Consultancy YmgynghorIAITH – Taflen cyrsiau hyfforddi [Cymraeg] pdf

Heddiw rydym yn cyhoeddi Rhaglen Hyfforddiant sy’n rhestri’r holl wahanol mathau o hyfforddiant corfforaethol yr ydym yn ei gynnig. Mae cyrsiau ar sgiliau cyflwyno a siarad cyhoeddus, hyfforddiant ar reoli pobl a phrosiectau, cyrsiau ar beth yw gwerth am arian, neu beth am gwrs ar lywodraethant a hyfforddiant i lywodraethwyr ac aelodau byrddau? Darperir pob cwrs yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn ogystal, mae nifer fawr o gyrsiau ar gynllunio polisïau iaith Gymraeg, gwneud asesiadau traw effaith a sut mae ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau yn eich sefydliad.

Ffoniwch 029 22362106 i ofyn am gyrsiau.

Gan |Mehefin 15, 2017|Newyddion|

Cyrsiau Hyfforddiant AM DDIM

Mae Cynllun cyffrous, newydd ar droed, sef cyfleoedd arbennig i hyfforddi a gwella sgiliau iaith Gymraeg yn y gwaith yn genedlaethol. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith newydd yn arloesol ac yn rhoi cyfle i weithleoedd fuddsoddi yn eu staff a gwella gwasanaethau yn y Gymraeg.

Cyhoeddodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fod RHD YmgynghorIAITH yn ddarparwr cydnabyddedig ar gyfer y cyrsiau hyfforddiant o dan y Cynllun. Dywedodd y Gyfarwyddwraig Reoli, “Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi bod RHD CONSULTANCY yn un o’r darparwyr. Edrychwn ymlaen at ddarparu cyrsiau dwys ar gyfer Cymraeg Gwaith yn fuan iawn. Dyma gyfle euraidd i ddatblygu’ch gweithle am ddim. Anogaf bob cwmni i gymryd mantais o’r Cynllun arbennig hwn. Edrychwn ymlaen yn fawr fel tîm i ddarparu hyfforddiant o ansawdd ac sydd wedi’i deilwra yn llwyr i Gymraeg Gwaith.”

Am fwy o wybodaeth ar y lansiad a’r cyrsiau sydd ar gael, http://dysgucymraeg.cymru/category/newyddion

Gan |Mai 19, 2017|Newyddion|

Adnabod a Defnyddio’r Sgiliau Sydd yn y Gweithlu

Pa sgiliau Cymraeg sydd yn y gweithle? Canfyddiadau Iaith ar Daith

Credwch neu beidio, mae tipyn o sgiliau iaith Gymraeg ymysg ein staff yn ein gweithleoedd. Dyna oedd un o ganfyddiadau ein prosiect diweddar ar awdit sgiliau Cymraeg Gwaith.

Gwnaeth YmggynghorIAITH gwblhau prosiect rhwng fis Rhagfyr 2016 a mis Mawrth 2017 yn asesu sgiliau mewn gweithleoedd amrywiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Wedi asesiadau trylwyr, diben y gwaith oedd cyflwyno adroddiad i’r gweithleoedd unigol ar sgiliau ieithyddol eu gweithlu, ar y 4 sgil: deall, darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg.

Canfyddiadau

O ddadansoddi’r data o’r sampl, dyma grynodeb o’r canfyddiadau:

  • Roedd rhywfaint o Gymraeg gan y mwyafrif o’r gweithlu a samplwyd. Hynny yw, aseswyd mwy o staff a oedd yn meddu ar rywfaint o sgiliau iaith nag aelodau staff heb unrhyw Gymraeg. Yn wir, roedd y mwyafrif o’r gweithlu yn meddu ar rywfaint o Gymraeg. Mae hyn yn ddiddorol wrth ystyried bod y Cyfrifiad ar y poblogaeth yn gyffredinol yn is.
  • Canfuwyd bod y rhan fwyaf yn gallu cyfarch yn elfennol yn y Gymraeg ac fe fyddai’r mwyafrif o staff yn gallu cyfarch ar y ffôn yn ddwyieithog, er enghraifft. Mae’r canfyddiad yma yn gadarnhaol iawn o ystyried gofynion yn y Safonau iaith newydd i holl staff sefydliadau yn y sector gyhoeddus (a’r tu hwnt) gyfarch yn y Gymraeg.
  • Ar y cyfan, yr oedd y rhan fwyaf helaeth o’r gweithlu yn gadarnhaol am y Gymraeg ac yn gadarnhaol am bwysigrwydd darparu gwasanaethau yn y Gymraeg i’w cwsmeriaid.
  • Yn ychwanegol, fe nodwyd diddordeb gan nifer o weithwyr mewn dysgu Gymraeg a gwella’u sgiliau ieithyddol ar gyfer pwrpasau Eto, yr oedd y canfyddiadau hyn yn gadarnhaol ac yn dangos bod potensial am fwy o hyfforddiant ar Gymraeg Gwaith.
  • Yn ddiddorol, lleiafrif oedd wedi derbyn hyfforddiant iaith ac er y diddordeb cyffredinol, doedd dim llawer â chynlluniau pendant i gymryd y cam nesaf i ddysgu/ gymryd hyfforddiant.

O’r siart wedi’i atodi, fe welwch y gwahanol lefelau ieithyddol a gasglwyd o’r sampl. Sylwch ar y lefelau Uwch ac i fyny a ganfuwyd. Aseswyd mwy ar y lefelau 5 (yr uchaf) nag unrhyw lefel arall. Er yn gadarnhaol iawn, rhaid cydnabod, mae mater samplo yw hyn. Mae’n bosibl bod yr ymarfer asesu wedi denu gweithwyr a oedd yn meddu ar sgiliau ac eisiau datblygu’r sgiliau hynny.

Argymhellion

Ar sail yr wybodaeth a gasglwyd, dyma grynodeb o’r argymhellion i sefydliadau:

  1. Cwblhau asesiad sgiliau trylwyr sy’n cynnwys y 4 sgil ac yn seiliedig ar lefelau cenedlaethol/ rhyngwladol cydnabyddedig.
  2. Cynlluniwch sgiliau iaith y gweithlu fel unrhyw sgil arall. Defnyddiwch ddata cadarn (h.y. wedi cwblhau asesiad sgiliau corfforaethol) i lunio Strategaeth Hyfforddiant Iaith fydd yn rhoi sail i gynllunio hyfforddiant priodol a strategol ar gyfer eich gweithlu.
  3. Gan adeiladu ar y sgiliau ieithyddol sylfaenol sydd yn eich gweithlu yn barod, trefnwch hyfforddiant a chanllawiau syml i staff ar gyfarch ar y ffôn ac yn y dderbynfa yn y Gymraeg ac annog y gweithlu i gyd i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw yn barod, drwy ymgyrch Defnyddiwch eich Cymraeg.
  4. Ymchwiliwch i’r mathau o gefnogaeth fyddai’r gweithlu yn dymuno ei weld e.e. sesiynau sgwrsio, mentor, gwasanaeth gwirio testun ysgrifenedig, hyfforddiant un i un ayyb.
  5. Cymerwch gyngor ar y mathau o h yfforddiant sydd orau ar gyfer staff sydd yn meddu ar sgiliau Cymraeg yn barod. Gall buddsoddi mewn unigolion ar lefelau uwch a hyfforddiant wedi’i deilwra, fod yn well gwerth am arian na darparu cyrsiau i ddechreuwyr pur yn unig.

Ôl Nodyn

Lluniwyd yr erthygl er mwyn nodi faint o Gymraeg sydd eisoes mewn gweithleoedd ac i bwysleisio pwysigrwydd adnabod a buddsoddi mewn sgiliau Cymraeg y gweithlu h.y. adeiladu ar y sgiliau a diddordeb sydd eisoes ar gael.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu sgwrs am hyfforddiant iaith a chynllunio ieithyddol, mae croeso i chi gysylltu. [email protected]

Methodoleg – Tynnwyd yr wybodaeth o sampl o weithleoedd yn y sector cyhoeddus ar draws de Cymru. Sampl strategol ydoedd ac nid sampl ar hap ac felly ddim yn gynrychioliadol o’r boblogaeth. Er mwyn parchu cyfrinachedd y prosiect, mae enwau’r gweithleoedd a aseswyd yn gyfrinachol a does dim modd rhannu data arnynt.

 

rhd-consultancy-ymgynghoriaith-iaith-ar-daith-skills-audit-road-show-211116-pdf

Gan |Ebrill 13, 2017|Newyddion|

Cyhoeddiad o £3miliwn ar gyfer hyfforddiant iaith yn y gweithle

Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd £3m o gyllideb ychwanegol ar gael i ddatblygu dysgu’r Gymraeg yn y gweithle, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflwyno’r rhaglen beilot ‘Cymraeg Gwaith/ Work Welsh’. Cewch fwy o wybodaeth yma ar y Cynllun.

Nod Cymraeg Gwaith yw cynnig cyfleoedd i ystod o weithwyr mewn gwahanol sectorau i ddysgu a gwella’u Cymraeg er mwyn ei defnyddio’n hyderus yn y gweithle a chwrdd ag anghenion busnes eu sefydliadau.

Mae’r Cynllun yn cynnwys:

  • Am DDIM – Cyrsiau ar-lein ar Gymraeg sylfaenol
  • Am DDIM – Cyrsiau dwys ar bob lefel ac ar gael ar draws Cymru
  • Am DDIM – Cyrsiau preswyl pum niwrnod er mwyn codi hyder

Mae’r Cynllun yma yn rhoi cyfle unigryw a chyffrous i ddysgu Cymraeg yn y gwaith.

Gan |Ebrill 13, 2017|Newyddion|

Eisiau Gwybod Mwy?

Cysylltwch â ni a chael gwybod os gallwn eich helpu chi heddiw.

Cysylltwch â ni

Gwybodaeth a Linciau Defnyddiol

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei chynigion i gryfhau seilwaith y Gymraeg.Polisi cenedlaethol seilwaith ieithyddol y Gymraeg

Y Gymraeg mewn addysg: Cynllun Gweithredu 2017 – 22

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Gynllun Gweithredu ar y Gymraeg mewn addysg ar gyfer y bedair blynedd nesaf. Mae’r Cynllun hwn yn un o’r cynlluniau gweithredu sydd yn deillio o’r strategaeth Cymraeg 2050 ac yn amlinellu sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae targedau yn y Cynllun ar sut [...]

Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg

Dyma linc at strategaeth Llywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd y darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ceir yma hefyd, Rhaglen Waith, sef Cynllun Gweithredu yn amlinellu sut yr ydynt yn bwriadu cyrraedd y darged. http://gov.wales/topics/welshlanguage/welsh-language-strategy-and-policies/cymraeg-2050-welsh-language-strategy/?lang=cy

Gyda’n Gilydd – Strategaeth dysgu Cymraeg

Cyhoeddwyd Strategaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – y corff sydd yn arwain y maes dysgu Cymraeg i oedolion. Amcan Strategol 1            Datblygu rhaglen arloesol o gyrsiau atyniadol ac addas i ddysgwyr gan wneud defnydd llawn o’r dechnoleg ddiweddaraf Amcan Strategol 2            Datblygu cynlluniau arloesol i sicrhau cyfleoedd a chyd-destunau i’r dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus Amcan Strategol 3            [...]

Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ar sefyllfa’r Gymraeg

Cyhoeddodd Gomisiynydd y Gymraeg y grynodeb hon ar sefyllfa’r iaith Gymraeg ym mis Awst 2016. Hanner ffordd rhwng y ddau Gyfrifiad, mae’n adroddiad amserol 5 mlynedd. http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Adroddiad%205%20Mlynedd%20crynodeb%20Gwefan.pdf

Mwy na geiriau… Fframwaith strategaeth olynol

Ar 22 Mawrth 2016, lansiwyd Fframwaith Strategol Olynol Mwy na geiriau.... i gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Yr Athro Mark Drakeford AC.   Wrth galon y strategaeth mae'r syniad bod medru defnyddio eich iaith eich hun yn rhan annatod o ofal - nid yn rhywbeth ychwanegol, dewisol. http://gov.wales/docs/dhss/publications/160317morethanjustwordscy.pdf

Tuag at 2030

Mae’r Athro Hazelkorn wedi cyhoeddi adolygiad pwysig o addysg ol-16 yng Nghymru, gan gyfeirio’n benodol at rôl a swyddogaeth y Cyngor Cyllido Addysg Uwch, i’r dyfodol. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Addysgu Athrawon Yfory

Yr Athro John Furlong Adroddiad ar ddyfodol Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

PISA 2012

Mae tua 510,000 o fyfyrwyr o 65 economi wedi cymryd rhan ym mhrofion PISA 2012 sy’n asesu darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a oedd yn cynrychioli tua 28 miliwn o fyfyrwyr 15 oed ar draws y byd. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Tribiwnlys y Gymraeg

Mae Tribiwnlys y Gymraeg yn gorff statudol annibynnol. Fe’i sefydlwyd ym mis Ebrill 2015 o dan Adran 120 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Ei swyddogaeth yw delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg o ran Safonau’r Gymraeg. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Comisiynydd y Gymraeg

Mae Comsiynydd y Gymraeg yn gorff annibynnol a sefydlwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru, monitro’r Cynlluniau Iaith presennol, a gosod Safonau’r Gymraeg ar gyrff. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru; creu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg; sefydlu Comisiynydd y Gymraeg; creu Panel Ymgynghori Comisiynydd y Gymraeg; galluogi hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg; a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; creu safonau parthed y Gymraeg (gan gynnwys dyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny a hawliau yn [...]

Go to Top