Mae RHD Consultancy yn darparu gwasanaeth ymgynghori arbenigol ac annibynnol i ystod eang o sefydliadau a busnesau, a’r gwasanaeth wedi’i deilwra yn arbennig i’ch anghenion.

Rydym yn darparu ymgynghoriaeth reoli o ansawdd uchel, gan gynnwys rheoli prosiectau, cynllunio strategol ac ysgrifennu polisïau, ymchwil a gwerthusiadau, rheoli newid, cydymffurfiaeth a llywodraethiant.

Rydym yn ymgynghorwyr rheoli proffesiynol ar draws pob sector, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Mae ein harbenigedd pennaf mewn addysg a hyfforddiant, asesu, a’r iaith Gymraeg.

Rydym yn gweithio’n gwbl ddwyieithog ac mae ein gwasanaethau ymgynghorol i gyd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Testun Saesneg

Rydym yn cynnig

Gwasanaethau ymgynghorol ar reoli

O gynllunio strategol i lunio polisïau a strategaethau, i gyngor arbenigol a chymorth ar lywodraethiant a chydymffurfiaeth, byddwn yn gallu helpu’ch busnes chi.

Gwybod Mwy
  • Llunio strategaethau a chynllunio strategol
  • Gwaith polisi e.e. datblygu, adolygu, gweithredu a gwerthuso
  • Archwiliadau ar berfformiad a gwerth am arian
  • Arbenigedd mewn llywodraethiant a chydymffurfiaeth
  • Cymorth gyda rheoli newid
  • Gwasanaethau rheoli prosiectau a rhaglenni
  • Cwblhau ymgynghoriadau a gwaith ymgysylltu yn fewnol ac yn allanol
  • Ymchwilio a gwerthuso ac adolygiadau systematig

Arbenigedd mewn addysgu, asesu a hyfforddi

Rydym yn cynnig arbenigedd a chyngor yn y maes addysg, cymwysterau ac asesu.

Gwybod Mwy
  • Ysgrifennu polisïau a strategaethau ar gyfer ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant
  • Cynghori ar gydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddwyr a safonau
  • Datblygu cymwysterau ac asesiadau
  • Darparu hyfforddiant staff ar gyfer arbenigwyr mewn addysg ac ymarferwyr
  • Datblygu a hyrwyddo addysg ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Ymgysylltu, ymgynghori, a chyfathrebu â staff, myfyrwyr a rhan ddeiliaid
  • Hyfforddiant i Aelodau Byrddau a Llywodraethwyr
  • Ymgyrchoedd Llais y Dysgwr
  • Strategaethau Addysg Cyfrwng Cymraeg

Arbenigedd yn y Gymraeg

Oherwydd ein harbenigedd yn y maes iaith, rydym yn cynnig hyfforddiant iaith yn ogystal â gwasanaethau ymgynghorol arbenigol ar ddeddfwriaeth y Gymraeg, polisïau iaith a chynllunio ieithyddol a gallwn eich helpu drwy’r broses i gyd.

Gwybod Mwy
  • Cyngor ar faterion statudol ar y Gymraeg
  • Ysgrifennu polisïau a strategaethau ar y Gymraeg
  • Archwiliadau cydymffurfiaeth ac asesiadau iechyd corfforaethol
  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer staff
  • Hyfforddiant iaith Gymraeg ar bob lefel ac wedi’u teilwra i’ch anghenion
  • Asesiadau Traw Effaith ar y Gymraeg
  • Mentora un i un i uwch reolwyr a swyddogion iaith

Unrhyw Gwestiwn?

Os ydych chi angen gwybod mwy neu holi am unrhyw un o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, mae’n syml…

Cysylltwch â ni

YmgynghorIAITH

Ydych chi’n cydymffurfio â’r Safonau Iaith?

Mae gan y Dr Rachel Heath-Davies, Cyfarwyddwraig a Pherchennog y cwmni, dros 25 mlynedd o brofiad yn y maes polisi iaith ac yn meddu ar brofiad sylweddol o weithredu Safonau’r Gymraeg. Yn ogystal, rydym yn darparu hyfforddiant iaith Gymraeg yn eich gweithle ac ar-lein sy’n ateb eich gofynion penodol chi ac y byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod yr hyfforddiant yn addas i’ch cyd-destun gwaith chi.

Gwybod Mwy

Beth mae ein cleientiaid yn meddwl

Penodwyd Rachel fel mentor staff i mi yn ôl yn 2012 pan gychwynnais mewn swydd fel Cydymaith Ymchwil. Roeddwn wedi cymryd y swydd ar ôl cyflwyno doethuriaeth a symud o Ogledd Cymru, felly er fy mod yn edrych ymlaen at y rôl newydd, roeddwn ar goll braidd hefyd! Darparodd Rachel oriau o drafod, a chyngor gwerthfawr i mi ynglŷn â sut i ddatblygu fel ymchwilwraig. Oherwydd ei bod hi mewn rôl allanol, roedd modd iddi gynnig gwybodaeth ddiduedd ynglŷn â sut i ddatblygu fy ngyrfa ymchwil, ac fe roddodd amser a gofal i’r gwaith, rhywbeth sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Mae hi’n dyfalbarhau wrth fynd at unrhyw dasg, a wastad yn rhoi’r amser sydd ei angen i ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar unigolion i lwyddo. Oherwydd ei chyngor, rwyf wedi cyhoeddi yn fy maes, wedi edrych ar nifer o gyfleoedd cyllid ymchwil ac wedi dod yn rhan o adran academaidd ddynamig lle mae fy sgiliau yn cael eu cydnabod. Rwy’n falch o gymeradwyo Rachel fel mentor, ac mae hyn wedi ei seilio ar fy mhrofiad o weithio gyda hi dros y blynyddoedd.
Dr Mirain Rhys, Prifysgol Caerdydd
Trefnodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i uwch staff ac, wedi hynny, gyfres o gyrsiau Cymraeg i staff ar draws y sefydliad. Roedd hyn yn strategol a phwrpasol er mwyn cynyddu diddordeb y staff a’u lefel ymgysylltu ac er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol am y safonau cenedlaethol. Gwrandawodd Rachel a’i thîm ar ein gofynion a theilwra pecyn o ddarpariaeth hyfforddiant yn unol â’n hanghenion. Yn bendant, fe fyddem yn gweithio gyda Rachel eto, yn arbennig oherwydd ei phroffesiynoldeb a’i harbenigedd ar y Gymraeg. Mwynhaodd y staff y sesiynau hyfforddi yn fawr.
Lesley Jones, Alun Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro