Daeth Rachel i Gyngor Dinas Casnewydd i gynnal asesiadau iaith gyda staff.
Bu’n brofiad diddorol i’r unigolion a’r sefydliad. O siarad â’r unigolion o flaen llaw roedd nifer ohonynt yn canolbwyntio ar eu diffygion, ond daethant yn fwy hyderus wrth siarad â Rachel a gwerthfawrogasant y cydnabyddiaeth o’u cyrhaeddiad h.y. beth yr ydynt yn gallu eu gwneud.
Rhoddodd ymweliad Rachel syniad o beth oedd yn bosib gyda ychydig o gymorth proffesiynol- nid yn unig ydy hi wedi asesu sgiliau iaith, ond drwy drafod mae hi wedi eu diddori mewn defnyddio’r iaith a gwella’u sgiliau. Mae e hefyd wedi tynnu sylw’r sefydliad at anghenion yr unigolion, yn ogystal ag arwain at ddarparu hyfforddiant i ddatblygu sgiliau staff y Cyngor yn bellach.
Roedd yn bleser gweithio gyda Rachel. Mae ganddi ystod eang o brofiad, a chryfder o allu gweithio gyda unigolion fel tiwtor neu fentor, tra hefyd yn gallu gweithio gyda sefydliadau ar lefel uchel fel swyddog strategol.
Mae gan Rachel ddealltwriaeth ddofn o’r maes cynllunio ieithyddol ac yn hyderus i weithio gyda sefydliadau pa bynnag mor ddatblygedig yr ydynt!
Roedd yr adroddiad a gynhyrchodd Rachel o ddefnydd mawr ac yn broffesiynol ei olwg.
Mae Rachel yn gwneud defnydd da o’i hamser i sicrhau eich bod fel sefydliad yn cael gwerth am arian, ac mae hi’n hapus i sgwrsio ag estyn cyngor ar feysydd mwy eang na’r gwaith a gytunwyd!
Llio Elgar, Cyngor Dinas Casnewydd.