Elusen gadwriaeth ydy Plantlife sy’n gweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol i achub blodau, planhigion a ffwngi gwyllt sydd o dan bygythiad ac y mae’n berchen ar oddeutu 4,500 erw o warchodfeydd natur yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr. Mae gan Plantlife 11,000 o aelodau a chefnogwyr a HRH Tywysog Cymru ydy ei Noddwr. Mae Cymru yn gartref i 23 o Ardaloedd Pwysig i Blanhigion, megis hen fwyngloddiau sy’n gyfoethog mewn cen prin, a thirlun Eryri gyda’i fflora uwchdir sydd o dan bygythiad, ac Ynys Sgomer, sy’n gyfoeth o wymon morol.

Comisiynodd Plantlife RHD Consultancy Cyf i adolygu ei bolisi iaith Gymraeg a’i Gynllun Iaith a baratowyd o dan Ddeddf Iaith 1993 yn wreiddiol, ac felly yr oedd angen eu diweddaru er mwyn cwrdd â gofynion deddfwriaethol newydd. Gwnaethom adolygiad llawn a chyflwyno papurau yn cynnwys argymhellion ar gyfeiriad strategol a gweledigaeth y sefydliad a’i ddatganiad polisi. Darparom wasanaeth ymgynghorol hefyd ar sut i brif-ffrydio a gweithredu’r strategaeth yn ei swyddfeydd ar draws y DU. Darparom sesiynau mentora 1-1 i staff a gweithiom ar y cyd ar ddrafftiau, yn adolygu a golygu yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau bod y polisi yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf ac yn cwrdd ag anghenion y sefydliad. O ganlyniad i’n gwaith, cymeradwyodd y Bwrdd Rheoli y polisi newydd, sy’n amlinellu’r cyfeiriad strategol yn glir, yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, ac yn cynorthwyo’r sefydliad i fwrw ati i’r dyfodol..