Mae RHD Consultancy yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i helpu’ch busnes. Boed yn wasanaethau ymgynghoriaeth reoli, ymchwil, neu hyfforddiant iaith, byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu’r cymorth a’r cyngor rydych yn ei haeddu.
Ymchwilio a Gwerthuso
- Gwerthuso polisïau
- Prosiectau ymchwil
- Ymchwiliadau e.e. cydymffurfiaeth, llywodraethiant, cwynion
- Casglu a dadansoddi data a thystiolaeth er mwyn llunio a llywio polisïau a gwelliannau
- Adrodd, cyhoeddi a chyflwyno canfyddiadau, datrysiadau ac argymhellion
- Ymgynghoriadau
- Hwyluso grwpiau ffocws
Addysg a Chymwysterau
- Sicrhau ansawdd a gwella parhaus
- Arfer dda mewn dysgu ar-lein ac o bell
- Ysgrifennu polisïau a strategaethau ar gyfer ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant
- Cynghori ar gydymffurfiaeth gyda gofynion rheoleiddwyr a safonau cenedlaethol
- Datblygu a darparu cymwysterau
- Datblygiad proffesiynol ar gyfer arbenigwyr addysg ac ymarferwyr
- Arfer dda mewn asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog
- Darparu a thyfu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
- Strategaethau Cymraeg mewn Addysg
- Ymgysylltu, ymgynghori a chyfathrebu gyda staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid
- Hyfforddiant i Lywodraethwyr ac Aelodau o’r Bwrdd
- Ymarferion Llais y Dysgwr
Strategaeth, Polisi a Rheoli
- Llunio strategaethau a pholisïau
- Datblygu, adolygu, gweithredu, monitro a gwerthuso polisïau
- Llunio cyfeiriad strategol ac ysgrifennu cynlluniau strategol
- Rheoli rhaglenni a phrosiectau
- Archwiliadau ar lywodraethiant a chydymffurfiaeth
- Cefnogaeth gyda rheoli newid
- Gwaith ymgysylltu â staff a chyfathrebu mewnol
- Creu a darparu rhaglenni hyfforddiant a chanllawiau i staff Cymorth gyda siarad yn gyhoeddus ac ysgrifennu areithiau
- Hyfforddi a mentora arweinwyr a rheolwyr
- Cwblhau archwiliadau ar berfformiad a chanfod gwelliannau, arbedion a gwell gwerth am arian
Y Gymraeg a chydraddoldeb
- Cydymffurfiaeth â deddfwriaeth ar y Gymraeg gan gynnwys Safonau’r iaith Gymraeg
- Ysgrifennu Cynlluniau Iaith Gymraeg, strategaethau a pholisïau iaith
- Asesiadau Traw Effaith
- Archwiliadau cydymffurfio ac asesiadau iechyd corfforaethol
- Asesu sgiliau ieithyddol staff iaith
- Y Cynnig Rhagweithiol
- Gwasanaeth Ymgynghorol ar Addysg Cyfrwng Cymraeg
- Y Gymraeg yn y maes cynllunio
Hyfforddiant iaith
- Hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle o ddechreuwyr hyd at Lefel A
- Hyfforddiant iaith i siaradwyr Cymraeg yn y gweithle
- Hyfforddiant arbenigol ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith
- Mentora un i un
- Ysgrifennu areithiau a siarad cyhoeddus yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog gan gynnwys terminoleg
Geirdaon ac Astudiaethau Achos
Prosiectau
Rydym bob amser yn gweithio’n galed i ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth.
Dyma rai o’r prosiectau sydd gennym ar y gweill.
- Yn 2022, byddwn yn cwblhau archwiliad ar gyfer corff dyfarnu sy’n darparu cymwysterau yng Nghymru.
- Yn 2021, gweithiom gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar eu cydymffurfiaeth fel sefydliad ac ail-wampiwyd eu cynllun gweithredu. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw ar eu camau nesaf yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
- Rydym yn edrych ymlaen at lansio ein teclyn asesu traw effaith newydd er mwyn cefnogi sefydliadau wrth iddynt gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg.
- Rydym wedi bod wrthi yn cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda’u Cynllun Datblygu Lleol. Yn ddiweddar, cynhyrchom eu Polisi Cynllunio a’r Gymraeg diwygiedig a chrëom adnodd arloesol ar gyfer asesu traw effaith datblygiadau cynllunio sylweddol.