Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrthi yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd yn 2019 a chomisiynwyd RHD Consultancy Cyf i weithio ar gyfres o asesiadau traw effaith ar y Gymraeg. Gwnaethom adolygu’r polisi cyfredol ar gynllunio a’r iaith Gymraeg ac ymchwiliom y ddeddfwriaeth a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes polisi cynllunio gan gynnwys y Nodyn Technegol Cyngor 20 newydd a’r Polisi Cynllunio Cymru (2018). Gwnaeth yr ymchwil hynny fwydo i mewn i’r gwaith o lunio polisi cynllunio newydd ar y Gymraeg. Drwy ddadansoddi ystadegol, clustnodom ardaloedd sy’n strategol bwysig i’r iaith Gymraeg a hefyd fe ddatblygom ffordd arloesol o asesu traw effaith lleoliadau a oedd yn cael eu cyflwyno ar gyfer eu datblygu. Cwblhaom asesiad traw effaith cynhwysfawr o’r Strategaeth a Ffefrir ac ar leoliadau unigol ar gyfer datblygu arfaethedig. Cyhoeddwyd ein asesiad traw effaith law yn llaw gyda’r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer ymgynghori, fel rhan o’r broses gynllunio statudol.