Mae YmgynghorIAITH yn darparu cyngor arbenigol a gwasanaethau ymgynghori ar y Gymraeg, gan gynnwys Safonau’r Gymraeg, addysg cyfrwng Cymraeg a chymwysterau, ymwybyddiaeth iaith a Chymraeg yn y gweithle.

Ydych chi’n cydymffurfio â’r Safonau Iaith?

Dyma enghreifftiau o’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu

  • Cyngor ar ofynion statudol e.e. Safonau’r Gymraeg
  • Cynllunio ieithyddol
  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
  • Llunio Polisïau Iaith a Strategaethau
  • Gwneud asesiadau sgiliau iaith, ysgrifennu Strategaeth Sgiliau Dwyieithog, a Chynlluniau Hyfforddi Corfforaethol
  • Asesiad Effaith ar y Gymraeg
  • Strategaethau Hybu’r Gymraeg
  • Cyngor arbenigol ar ddefnydd o’r Gymraeg yn fewnol
  • Monitro perfformiad a chydymffuriaeth â Chynlluniau Iaith Gymraeg a Safonau’r Gymraeg

Businessman presenting to colleagues at a meeting

Hyfforddiant iaith

Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad o hyfforddi yn y Gymraeg yn y gweithle. Rydym yn darparu hyfforddiant yn eich gweithle ac ar-lein ar bob lefel – o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl sydd eisiau gwella eu Cymraeg ar gyfer pwrpasau gwaith. Byddwn yn eich cynghori ar ba hyfforddiant sy’n ateb eich gofynion y gorau ac yn gweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod yr hyfforddiant yn addas a phriodol i’ch sefydliad a’ch cyd-destun gwaith chi.

Conference Training Planning Learning Coaching Business Concept

  • Hyfforddiant iaith i staff ar bob lefel ac wedi’i deilwra i gyd-destun gwaith
  • Hyfforddiant Cyfarch a delio â chwsmeriaid i staff rheng-flaen
  • Cymorth gyda defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a therminoleg
  • Hyfforddiant iaith un i un arbenigol a mentora uwch-reolwyr
  • A fyddech chi’n hoffi cael cymorth gyda chyflwyno yn y Gymraeg?
  • A oes angen i chi hyfforddi eich staff rheng-flaen sut i gyfarch yn y Gymraeg?
  • Beth am eich staff sy’n siarad rhywfaint o Gymraeg yn barod? A fydden nhw’n cael budd o hyfforddiant arbenigol er mwyn cynyddu eu defnydd o’r Gymraeg yn broffesiynol?
  • Oes dyddiadur prysur gyda chi ac a fyddai’n well gennych dderbyn hyfforddiant iaith hyblyg un i un?

Cysylltwch â ni er mwyn i ni gynllunio hyfforddiant iaith i gwrdd â’ch gofynion chi.

Ar gyfer ymgynghoriad cychwynnol am ddim, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni

Sut y gallwn ni helpu

YmgynghorIAITH

  • Gweithredu a chydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
  • Cynlluniau Iaith a Pholisïau Iaith
  • Asesiadau Traw Effaith
  • Gwerthusiad o’r Gyllideb
  • Strategaeth Hybu’r Gymraeg
  • Strategaeth Sgiliau Dwyieithog
  • Asesiadau sgiliau iaith
  • Cynlluniau Hyfforddiant Iaith
  • Defnydd Mewnol o’r Gymraeg
  • Mentora ar gynllunio ieithyddol i reolwyr a swyddogion iaith
  • Y Gymraeg yn y maes cynllunio
  • Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith
  • Y Cynnig Rhagweithiol
  • Addysg Cyfrwng Cymraeg
    • Cynllunio a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
    • Strategaethau Addysg Gymraeg
    • Datblygu a darparu cymwysterau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg

Hyfforddiant Iaith

  • Hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle o ddechreuwyr hyd at Lefel A
  • Hyfforddiant iaith i siaradwyr Cymraeg yn y gweithle
  • Hyfforddiant arbenigol ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith
  • Mentora un i un
  • Ysgrifennu areithiau a siarad cyhoeddus yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog gan gynnwys terminoleg

Beth yw Mesur y Gymraeg?

Galluogodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Weinidogion Cymru i lunio safonau.

  • Rhoi statws ffurfiol i’r Gymraeg yng Nghymru
  • Darparu ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Sefydlu rôl Comisiynydd y Gymraeg
  • Galluogi hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg
  • Galluogi sefydlu safonau parthed y Gymraeg
  • Sefydlu’r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
  • Galluogi archwiliadau i ymyrraeth â rhyddid pobl i ddefnyddio’r Gymraeg e.e. yn y gwaith
  • Creu Tribiwnlys y Gymraeg

Beth yw Safonau’r Gymraeg?

Pwrpas Safonau’r Gymraeg yw sicrhau lefel gyson o wasanaeth yn y Gymraeg y gall siaradwyr y Gymraeg ei disgwyl ar draws Cymru.

  • Bydd Safonau’r Gymraeg yn raddol yn cymryd lle Cynllun Iaith, a ddaeth i rym drwy Ddeddf yr Iaith Gymraeg, 1993.
  • Bydd Comsiynydd y Gymraeg yn gyfrifol am osod Safonau ar sefydliadau.
  • Mae gofyn i sefydliadau a enwir ym Mesur y Gymraeg weithredu Safonau’r Gymraeg. Mae rhaglen dreigl ar gyfer gwneud y Safonau yn weithredol i bob sefydliad sydd wedi’i enwi.
  • Gosodwyd y gyfres gyntaf o Safonau gerbron Cynlluniad Cymru ym mis Mawrth 2015.
  • Y clwstwr cyntaf o sefydliadau a oedd yn gorfod cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg oedd Gweinidogion Cymru, y parciau cenedlaethol a’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
  • Roedd 119 o sefydliadau yn y sectorau canlynol yn yr ail glwstwr: addysg, iechyd, cyrff cyhoeddus, darlledu a chyrff y tu allan i Gymraeg sy’n darparu gwasanaethau i Gymru.

Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma