Yn ystod 2015-16, cymeradwywyd Strategaeth Sgiliau Iaith y coleg gan y Tîm Uwch-Reoli a Bwrdd y Gorfforaeth. Dechreuodd y broses o weithredu’r Strategaeth ym mis Gorffennaf 2016 a’r cam cyntaf oedd gofyn i bob rheolwr a phennaeth ysgol academaidd gwblhau awdit o anghenion sgiliau iaith pob swyddogaeth a swydd benodol o fewn eu cylch gwaith.
Ym mis Rhagfyr 2016, comisiynwyd RHD i dreulio cyfnod yn swyddfa Adnoddau Dynol y coleg er mwyn rhoi cymorth annibynnol wrth adolygu a chysoni ymatebion yr awdit gan reolwyr.
Roedd y cyngor a gafwyd yn ddoeth, cytbwys ac amhrisiadwy o ran:

  • cadarnhau bod y coleg ar y trywydd iawn o ran ystyried y Gymraeg wrth recriwtio a datblygu staff;
  • adnabod y lefelau sgiliau iaith priodol ar gyfer gwahanol fathau o swyddi o fewn y sefydliad;
  • creu trefniadau i glustnodi’r swyddi hynny lle ystyrir bod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol er mwyn darparu gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • gosod anghenion sgiliau iaith y sefydliad o fewn y cyd-destun statudol newydd fydd yn wynebu’r coleg yn sgil gweithredu’r gyfundrefn ‘Safonau’ o fis Mawrth 2018 ymlaen
  • adnabod a chynllunio ar gyfer y camau nesaf.

Yn dilyn derbyn cyngor RHD, mae’r coleg wedi cynnal cyfweliadau wyneb-yn-wyneb gyda nifer o reolwyr allweddol ac wedi dechrau hysbysebu swyddi sydd yn cynnwys disgrifiadau llawer mwy cynhwysfawr o’r sgiliau iaith angenrheidiol ar gyflawni’r swyddi dan sylw.
Byddwn yn argymell y cwmni oherwydd:

  • dealltwriaeth RHD o oblygiadau Mesur y Gymraeg 2011, swyddogaeth rheoleiddio Comisiynydd y Gymraeg a dyletswyddau cydymffurfio y sector cyhoeddus yn sgil dyfodiad cyfundrefn Safonau Iaith Llywodraeth Cymru;
  • arbenigedd a phrofiad RHD yn y maes cynllunio ar gyfer gweithlu dwyieithog

Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd, Grwp Coleg Castell Nedd Port Talbot.