Penodwyd Rachel fel mentor staff i mi yn ôl yn 2012 pan gychwynnais mewn swydd fel Cydymaith Ymchwil. Roeddwn wedi cymryd y swydd ar ôl cyflwyno doethuriaeth a symud o Ogledd Cymru, felly er fy mod yn edrych ymlaen at y rôl newydd, roeddwn ar goll braidd hefyd! Darparodd Rachel oriau o drafod, a chyngor gwerthfawr i mi ynglŷn â sut i ddatblygu fel ymchwilwraig. Oherwydd ei bod hi mewn rôl allanol, roedd modd iddi gynnig gwybodaeth ddiduedd ynglŷn â sut i ddatblygu fy ngyrfa ymchwil, ac fe roddodd amser a gofal i’r gwaith, rhywbeth sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Mae hi’n dyfalbarhau wrth fynd at unrhyw dasg, a wastad yn rhoi’r amser sydd ei angen i ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar unigolion i lwyddo. Oherwydd ei chyngor, rwyf wedi cyhoeddi yn fy maes, wedi edrych ar nifer o gyfleoedd cyllid ymchwil ac wedi dod yn rhan o adran academaidd ddynamig lle mae fy sgiliau yn cael eu cydnabod. Rwy’n falch o gymeradwyo Rachel fel mentor, ac mae hyn wedi ei seilio ar fy mhrofiad o weithio gyda hi dros y blynyddoedd.

Dr Mirain Rhys, Cardiff University.