Pa sgiliau Cymraeg sydd yn y gweithle? Canfyddiadau Iaith ar Daith

Credwch neu beidio, mae tipyn o sgiliau iaith Gymraeg ymysg ein staff yn ein gweithleoedd. Dyna oedd un o ganfyddiadau ein prosiect diweddar ar awdit sgiliau Cymraeg Gwaith.

Gwnaeth YmggynghorIAITH gwblhau prosiect rhwng fis Rhagfyr 2016 a mis Mawrth 2017 yn asesu sgiliau mewn gweithleoedd amrywiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Wedi asesiadau trylwyr, diben y gwaith oedd cyflwyno adroddiad i’r gweithleoedd unigol ar sgiliau ieithyddol eu gweithlu, ar y 4 sgil: deall, darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg.

Canfyddiadau

O ddadansoddi’r data o’r sampl, dyma grynodeb o’r canfyddiadau:

  • Roedd rhywfaint o Gymraeg gan y mwyafrif o’r gweithlu a samplwyd. Hynny yw, aseswyd mwy o staff a oedd yn meddu ar rywfaint o sgiliau iaith nag aelodau staff heb unrhyw Gymraeg. Yn wir, roedd y mwyafrif o’r gweithlu yn meddu ar rywfaint o Gymraeg. Mae hyn yn ddiddorol wrth ystyried bod y Cyfrifiad ar y poblogaeth yn gyffredinol yn is.
  • Canfuwyd bod y rhan fwyaf yn gallu cyfarch yn elfennol yn y Gymraeg ac fe fyddai’r mwyafrif o staff yn gallu cyfarch ar y ffôn yn ddwyieithog, er enghraifft. Mae’r canfyddiad yma yn gadarnhaol iawn o ystyried gofynion yn y Safonau iaith newydd i holl staff sefydliadau yn y sector gyhoeddus (a’r tu hwnt) gyfarch yn y Gymraeg.
  • Ar y cyfan, yr oedd y rhan fwyaf helaeth o’r gweithlu yn gadarnhaol am y Gymraeg ac yn gadarnhaol am bwysigrwydd darparu gwasanaethau yn y Gymraeg i’w cwsmeriaid.
  • Yn ychwanegol, fe nodwyd diddordeb gan nifer o weithwyr mewn dysgu Gymraeg a gwella’u sgiliau ieithyddol ar gyfer pwrpasau Eto, yr oedd y canfyddiadau hyn yn gadarnhaol ac yn dangos bod potensial am fwy o hyfforddiant ar Gymraeg Gwaith.
  • Yn ddiddorol, lleiafrif oedd wedi derbyn hyfforddiant iaith ac er y diddordeb cyffredinol, doedd dim llawer â chynlluniau pendant i gymryd y cam nesaf i ddysgu/ gymryd hyfforddiant.

O’r siart wedi’i atodi, fe welwch y gwahanol lefelau ieithyddol a gasglwyd o’r sampl. Sylwch ar y lefelau Uwch ac i fyny a ganfuwyd. Aseswyd mwy ar y lefelau 5 (yr uchaf) nag unrhyw lefel arall. Er yn gadarnhaol iawn, rhaid cydnabod, mae mater samplo yw hyn. Mae’n bosibl bod yr ymarfer asesu wedi denu gweithwyr a oedd yn meddu ar sgiliau ac eisiau datblygu’r sgiliau hynny.

Argymhellion

Ar sail yr wybodaeth a gasglwyd, dyma grynodeb o’r argymhellion i sefydliadau:

  1. Cwblhau asesiad sgiliau trylwyr sy’n cynnwys y 4 sgil ac yn seiliedig ar lefelau cenedlaethol/ rhyngwladol cydnabyddedig.
  2. Cynlluniwch sgiliau iaith y gweithlu fel unrhyw sgil arall. Defnyddiwch ddata cadarn (h.y. wedi cwblhau asesiad sgiliau corfforaethol) i lunio Strategaeth Hyfforddiant Iaith fydd yn rhoi sail i gynllunio hyfforddiant priodol a strategol ar gyfer eich gweithlu.
  3. Gan adeiladu ar y sgiliau ieithyddol sylfaenol sydd yn eich gweithlu yn barod, trefnwch hyfforddiant a chanllawiau syml i staff ar gyfarch ar y ffôn ac yn y dderbynfa yn y Gymraeg ac annog y gweithlu i gyd i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw yn barod, drwy ymgyrch Defnyddiwch eich Cymraeg.
  4. Ymchwiliwch i’r mathau o gefnogaeth fyddai’r gweithlu yn dymuno ei weld e.e. sesiynau sgwrsio, mentor, gwasanaeth gwirio testun ysgrifenedig, hyfforddiant un i un ayyb.
  5. Cymerwch gyngor ar y mathau o h yfforddiant sydd orau ar gyfer staff sydd yn meddu ar sgiliau Cymraeg yn barod. Gall buddsoddi mewn unigolion ar lefelau uwch a hyfforddiant wedi’i deilwra, fod yn well gwerth am arian na darparu cyrsiau i ddechreuwyr pur yn unig.

Ôl Nodyn

Lluniwyd yr erthygl er mwyn nodi faint o Gymraeg sydd eisoes mewn gweithleoedd ac i bwysleisio pwysigrwydd adnabod a buddsoddi mewn sgiliau Cymraeg y gweithlu h.y. adeiladu ar y sgiliau a diddordeb sydd eisoes ar gael.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu sgwrs am hyfforddiant iaith a chynllunio ieithyddol, mae croeso i chi gysylltu. [email protected]

Methodoleg – Tynnwyd yr wybodaeth o sampl o weithleoedd yn y sector cyhoeddus ar draws de Cymru. Sampl strategol ydoedd ac nid sampl ar hap ac felly ddim yn gynrychioliadol o’r boblogaeth. Er mwyn parchu cyfrinachedd y prosiect, mae enwau’r gweithleoedd a aseswyd yn gyfrinachol a does dim modd rhannu data arnynt.

 

rhd-consultancy-ymgynghoriaith-iaith-ar-daith-skills-audit-road-show-211116-pdf