Cyhoeddwyd Strategaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – y corff sydd yn arwain y maes dysgu Cymraeg i oedolion.

Amcan Strategol 1            Datblygu rhaglen arloesol o gyrsiau atyniadol ac addas i ddysgwyr gan wneud defnydd llawn o’r dechnoleg ddiweddaraf

Amcan Strategol 2            Datblygu cynlluniau arloesol i sicrhau cyfleoedd a chyd-destunau i’r dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus

Amcan Strategol 3            Sefydlu rhwydwaith o ddarparwyr er mwyn cynnig gwasanaeth o ragoriaeth

Amcan Strategol 4            Codi proffil y maes a chynyddu’r niferoedd sy’n dechrau cyrsiau ac yn parhau i ddysgu’r Gymraeg

Amcan Strategol 5            Sefydlu a chynnal gweithdrefnau i gefnogi’r gwasanaeth

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r strategaeth: http://dysgucymraeg.cymru/wp-content/uploads/2016/01/FINAL-CYMRAEG.pdf

Mewn ymateb i’r Strategaeth, mae’r Dr Rachel Heath-Davies yn edrych ymlaen at weld y cwricwlwm newydd yn datblygu, yn croesawu’r deunyddiau a chwrs lyfrau sydd yn cael eu hawduro ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at y Strategaeth Gweithle newydd. “Fel un sydd wedi cael profiad o ddatblygu hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus tiwtoriaid y maes, edrychaf ymlaen at y Strategaeth Datblygu Gweithlu newydd.” Dywedodd hefyd eu bod yn cydnabod yr her o gynyddu nifer y cyrsiau dwys ac yn croesawu’r amcanion a datblygiadau.

Mae YmgynghorIAITH yn darparu tipyn o hyfforddiant iaith ac edrychwn ymlaen at y potensial i gydweithio gyda’r Ganolfan i’r dyfodol.