Mae RHD Consultancy yn darparu gwasanaeth ymgynghori arbenigol ac annibynnol i ystod eang o sefydliadau a busnesau, a’r gwasanaeth wedi’i deilwra yn arbennig i’ch anghenion.
Rydym yn darparu ymgynghoriaeth reoli o ansawdd uchel, gan gynnwys rheoli prosiectau, cynllunio strategol ac ysgrifennu polisïau, ymchwil a gwerthusiadau, rheoli newid, cydymffurfiaeth a llywodraethiant.
Rydym yn ymgynghorwyr rheoli proffesiynol ar draws pob sector, gan gynnwys y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Mae ein harbenigedd pennaf mewn addysg a hyfforddiant, asesu, a’r iaith Gymraeg.
Rydym yn gweithio’n gwbl ddwyieithog ac mae ein gwasanaethau ymgynghorol i gyd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Rydym yn cynnig
Gwasanaethau ymgynghorol ar reoli
O gynllunio strategol i lunio polisïau a strategaethau, i gyngor arbenigol a chymorth ar lywodraethiant a chydymffurfiaeth, byddwn yn gallu helpu’ch busnes chi.
- Llunio strategaethau a chynllunio strategol
- Gwaith polisi e.e. datblygu, adolygu, gweithredu a gwerthuso
- Archwiliadau ar berfformiad a gwerth am arian
- Arbenigedd mewn llywodraethiant a chydymffurfiaeth
- Cymorth gyda rheoli newid
- Gwasanaethau rheoli prosiectau a rhaglenni
- Cwblhau ymgynghoriadau a gwaith ymgysylltu yn fewnol ac yn allanol
- Ymchwilio a gwerthuso ac adolygiadau systematig
Arbenigedd mewn addysgu, asesu a hyfforddi
Rydym yn cynnig arbenigedd a chyngor yn y maes addysg, cymwysterau ac asesu.
- Ysgrifennu polisïau a strategaethau ar gyfer ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant
- Cynghori ar gydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddwyr a safonau
- Datblygu cymwysterau ac asesiadau
- Darparu hyfforddiant staff ar gyfer arbenigwyr mewn addysg ac ymarferwyr
- Datblygu a hyrwyddo addysg ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg
- Ymgysylltu, ymgynghori, a chyfathrebu â staff, myfyrwyr a rhan ddeiliaid
- Hyfforddiant i Aelodau Byrddau a Llywodraethwyr
- Ymgyrchoedd Llais y Dysgwr
- Strategaethau Addysg Cyfrwng Cymraeg
Arbenigedd yn y Gymraeg
Oherwydd ein harbenigedd yn y maes iaith, rydym yn cynnig hyfforddiant iaith yn ogystal â gwasanaethau ymgynghorol arbenigol ar ddeddfwriaeth y Gymraeg, polisïau iaith a chynllunio ieithyddol a gallwn eich helpu drwy’r broses i gyd.
- Cyngor ar faterion statudol ar y Gymraeg
- Ysgrifennu polisïau a strategaethau ar y Gymraeg
- Archwiliadau cydymffurfiaeth ac asesiadau iechyd corfforaethol
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ar gyfer staff
- Hyfforddiant iaith Gymraeg ar bob lefel ac wedi’u teilwra i’ch anghenion
- Asesiadau Traw Effaith ar y Gymraeg
- Mentora un i un i uwch reolwyr a swyddogion iaith
YmgynghorIAITH
Ydych chi’n cydymffurfio â’r Safonau Iaith?
Mae gan y Dr Rachel Heath-Davies, Cyfarwyddwraig a Pherchennog y cwmni, dros 25 mlynedd o brofiad yn y maes polisi iaith ac yn meddu ar brofiad sylweddol o weithredu Safonau’r Gymraeg. Yn ogystal, rydym yn darparu hyfforddiant iaith Gymraeg yn eich gweithle ac ar-lein sy’n ateb eich gofynion penodol chi ac y byddwn yn gweithio’n agos gyda chi i sicrhau bod yr hyfforddiant yn addas i’ch cyd-destun gwaith chi.
Beth mae ein cleientiaid yn meddwl
Penodwyd Rachel fel mentor staff i mi yn ôl yn 2012 pan gychwynnais mewn swydd fel Cydymaith Ymchwil. Roeddwn wedi cymryd y swydd ar ôl cyflwyno doethuriaeth a symud o Ogledd Cymru, felly er fy mod yn edrych ymlaen at y rôl newydd, roeddwn ar goll braidd hefyd! Darparodd Rachel oriau o drafod, a chyngor gwerthfawr i mi ynglŷn â sut i ddatblygu fel ymchwilwraig. Oherwydd ei bod hi mewn rôl allanol, roedd modd iddi gynnig gwybodaeth ddiduedd ynglŷn â sut i ddatblygu fy ngyrfa ymchwil, ac fe roddodd amser a gofal i’r gwaith, rhywbeth sydd wedi aros gyda mi hyd heddiw. Mae hi’n dyfalbarhau wrth fynd at unrhyw dasg, a wastad yn rhoi’r amser sydd ei angen i ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar unigolion i lwyddo. Oherwydd ei chyngor, rwyf wedi cyhoeddi yn fy maes, wedi edrych ar nifer o gyfleoedd cyllid ymchwil ac wedi dod yn rhan o adran academaidd ddynamig lle mae fy sgiliau yn cael eu cydnabod. Rwy’n falch o gymeradwyo Rachel fel mentor, ac mae hyn wedi ei seilio ar fy mhrofiad o weithio gyda hi dros y blynyddoedd.
Trefnodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i uwch staff ac, wedi hynny, gyfres o gyrsiau Cymraeg i staff ar draws y sefydliad. Roedd hyn yn strategol a phwrpasol er mwyn cynyddu diddordeb y staff a’u lefel ymgysylltu ac er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol am y safonau cenedlaethol. Gwrandawodd Rachel a’i thîm ar ein gofynion a theilwra pecyn o ddarpariaeth hyfforddiant yn unol â’n hanghenion. Yn bendant, fe fyddem yn gweithio gyda Rachel eto, yn arbennig oherwydd ei phroffesiynoldeb a’i harbenigedd ar y Gymraeg. Mwynhaodd y staff y sesiynau hyfforddi yn fawr.