Loading...
Gwasanaethau2022-01-06T16:11:50+00:00

Mae RHD Consultancy yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i helpu’ch busnes. Boed yn wasanaethau ymgynghoriaeth reoli, ymchwil, neu hyfforddiant iaith, byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu’r cymorth a’r cyngor rydych yn ei haeddu.

Ymchwilio a Gwerthuso

  • Gwerthuso polisïau
  • Prosiectau ymchwil
  • Ymchwiliadau e.e. cydymffurfiaeth, llywodraethiant, cwynion
  • Casglu a dadansoddi data a thystiolaeth er mwyn llunio a llywio polisïau a gwelliannau
  • Adrodd, cyhoeddi a chyflwyno canfyddiadau, datrysiadau ac argymhellion
  • Ymgynghoriadau
  • Hwyluso grwpiau ffocws

Addysg a Chymwysterau

  • Sicrhau ansawdd a gwella parhaus
  • Arfer dda mewn dysgu ar-lein ac o bell
  • Ysgrifennu polisïau a strategaethau ar gyfer ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant
  • Cynghori ar gydymffurfiaeth gyda gofynion rheoleiddwyr a safonau cenedlaethol
  • Datblygu a darparu cymwysterau
  • Datblygiad proffesiynol ar gyfer arbenigwyr addysg ac ymarferwyr
  • Arfer dda mewn asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog
  • Darparu a thyfu darpariaeth cyfrwng Cymraeg
  • Strategaethau Cymraeg mewn Addysg
  • Ymgysylltu, ymgynghori a chyfathrebu gyda staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid
  • Hyfforddiant i Lywodraethwyr ac Aelodau o’r Bwrdd
  • Ymarferion Llais y Dysgwr

Strategaeth, Polisi a Rheoli

  • Llunio strategaethau a pholisïau
  • Datblygu, adolygu, gweithredu, monitro a gwerthuso polisïau
  • Llunio cyfeiriad strategol ac ysgrifennu cynlluniau strategol
  • Rheoli rhaglenni a phrosiectau
  • Archwiliadau ar lywodraethiant a chydymffurfiaeth
  • Cefnogaeth gyda rheoli newid
  • Gwaith ymgysylltu â staff a chyfathrebu mewnol
  • Creu a darparu rhaglenni hyfforddiant a chanllawiau i staff Cymorth gyda siarad yn gyhoeddus ac ysgrifennu areithiau
  • Hyfforddi a mentora arweinwyr a rheolwyr
  • Cwblhau archwiliadau ar berfformiad a chanfod gwelliannau, arbedion a gwell gwerth am arian

Y Gymraeg a chydraddoldeb

  • Cydymffurfiaeth â deddfwriaeth ar y Gymraeg gan gynnwys Safonau’r iaith Gymraeg
  • Ysgrifennu Cynlluniau Iaith Gymraeg, strategaethau a pholisïau iaith
  • Asesiadau Traw Effaith
  • Archwiliadau cydymffurfio ac asesiadau iechyd corfforaethol
  • Asesu sgiliau ieithyddol staff iaith
  • Y Cynnig Rhagweithiol
  • Gwasanaeth Ymgynghorol ar Addysg Cyfrwng Cymraeg
  • Y Gymraeg yn y maes cynllunio

Hyfforddiant iaith

  • Hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle o ddechreuwyr hyd at Lefel A
  • Hyfforddiant iaith i siaradwyr Cymraeg yn y gweithle
  • Hyfforddiant arbenigol ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith
  • Mentora un i un
  • Ysgrifennu areithiau a siarad cyhoeddus yn y Gymraeg ac yn ddwyieithog gan gynnwys terminoleg

Unrhyw Gwestiwn?

Os hoffech gael unrhyw help neu ymgynghoriad cychwynnol am ddim, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni

Geirdaon ac Astudiaethau Achos

Plantlife

Elusen gadwriaeth ydy Plantlife sy’n gweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol i achub blodau, planhigion a ffwngi gwyllt sydd o dan bygythiad ac y mae’n berchen ar oddeutu 4,500 erw o warchodfeydd natur yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr. Mae gan Plantlife 11,000 o aelodau a chefnogwyr a HRH Tywysog Cymru […]

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Cynllun Datblygu Lleol newydd

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrthi yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd yn 2019 a chomisiynwyd RHD Consultancy Cyf i weithio ar gyfres o asesiadau traw effaith ar y Gymraeg. Gwnaethom adolygu’r polisi cyfredol ar gynllunio a’r iaith Gymraeg ac ymchwiliom y ddeddfwriaeth a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes polisi cynllunio […]

Awdurdod Cyllid Cymru – Strategaeth ar y Gymraeg

Cwrteisi, Tyfu, Hybu yw enw strategaeth Awdurdod Cyllid Cymru ar y Gymraeg, a ysgrifennwyd gan RHD Consultancy Cyf. Sefydlwyd yr Awdurdod newydd i gasglu refeniw trethu i Gymru yn 2017 a gofynnwyd i ni lunio strategaeth arloesol a phellgyrhaeddol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Gweithiom yn agos gyda’r tîm […]

Prifysgol Caerdydd

Penodwyd Rachel fel mentor staff i mi yn ôl yn 2012 pan gychwynnais mewn swydd fel Cydymaith Ymchwil. Roeddwn wedi cymryd y swydd ar ôl cyflwyno doethuriaeth a symud o Ogledd Cymru, felly er fy mod yn edrych ymlaen at y rôl newydd, roeddwn ar goll braidd hefyd! Darparodd Rachel oriau o drafod, […]

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Trefnodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i uwch staff ac, wedi hynny, gyfres o gyrsiau Cymraeg i staff ar draws y sefydliad. Roedd hyn yn strategol a phwrpasol er mwyn cynyddu diddordeb y staff a’u lefel ymgysylltu ac er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol am y safonau cenedlaethol. Gwrandawodd Rachel a’i […]

Asesu Sgiliau Staff Cyngor Dinas Casnewydd

Daeth Rachel i Gyngor Dinas Casnewydd i gynnal asesiadau iaith gyda staff.
Bu’n brofiad diddorol i’r unigolion a’r sefydliad. O siarad â’r unigolion o flaen llaw roedd nifer ohonynt yn canolbwyntio ar eu diffygion, ond daethant yn fwy hyderus wrth siarad â Rachel a gwerthfawrogasant y cydnabyddiaeth o’u cyrhaeddiad h.y. beth […]

Prosiectau

Rydym bob amser yn gweithio’n galed i ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol sydd â’r potensial i wneud gwahaniaeth.

Dyma rai o’r prosiectau sydd gennym ar y gweill.

  • Yn 2022, byddwn yn cwblhau archwiliad ar gyfer corff dyfarnu sy’n darparu cymwysterau yng Nghymru.
  • Yn 2021, gweithiom gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar eu cydymffurfiaeth fel sefydliad ac ail-wampiwyd eu cynllun gweithredu. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw ar eu camau nesaf yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
  • Rydym yn edrych ymlaen at lansio ein teclyn asesu traw effaith newydd er mwyn cefnogi sefydliadau wrth iddynt gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg.
  • Rydym wedi bod wrthi yn cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda’u Cynllun Datblygu Lleol. Yn ddiweddar, cynhyrchom eu Polisi Cynllunio a’r Gymraeg diwygiedig a chrëom adnodd arloesol ar gyfer asesu traw effaith datblygiadau cynllunio sylweddol.

Am restr lawn o’n prosiectau sydd ar y gweill yn ogystal â chadw golwg ar bob un o’n prosiectau ben ar at y tudalennau Newyddion.

Newyddion
Go to Top