Newyddion
Ar y dudalen hon mae’r newyddion diweddaraf ac adnoddau a linciau defnyddiol. Os hoffech mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu.
Gyda’n Gilydd – Strategaeth dysgu Cymraeg
Cyhoeddwyd Strategaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – y corff sydd yn arwain y maes dysgu Cymraeg i oedolion.
Amcan Strategol 1 Datblygu rhaglen arloesol o gyrsiau atyniadol ac addas i ddysgwyr gan wneud defnydd llawn o’r dechnoleg ddiweddaraf
Amcan Strategol 2 Datblygu cynlluniau arloesol i sicrhau cyfleoedd a chyd-destunau i’r dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus
Amcan Strategol 3 Sefydlu rhwydwaith o ddarparwyr er mwyn cynnig gwasanaeth o ragoriaeth
Amcan Strategol 4 Codi proffil y maes a chynyddu’r niferoedd sy’n dechrau cyrsiau ac yn parhau i ddysgu’r Gymraeg
Amcan Strategol 5 Sefydlu a chynnal gweithdrefnau i gefnogi’r gwasanaeth
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r strategaeth: http://dysgucymraeg.cymru/wp-content/uploads/2016/01/FINAL-CYMRAEG.pdf
Mewn ymateb i’r Strategaeth, mae’r Dr Rachel Heath-Davies yn edrych ymlaen at weld y cwricwlwm newydd yn datblygu, yn croesawu’r deunyddiau a chwrs lyfrau sydd yn cael eu hawduro ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at y Strategaeth Gweithle newydd. “Fel un sydd wedi cael profiad o ddatblygu hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus tiwtoriaid y maes, edrychaf ymlaen at y Strategaeth Datblygu Gweithlu newydd.” Dywedodd hefyd eu bod yn cydnabod yr her o gynyddu nifer y cyrsiau dwys ac yn croesawu’r amcanion a datblygiadau.
Mae YmgynghorIAITH yn darparu tipyn o hyfforddiant iaith ac edrychwn ymlaen at y potensial i gydweithio gyda’r Ganolfan i’r dyfodol.
Iaith ar Daith
Heddiw, yr ydym wedi lansio Iaith ar Daith ar draws Cymru. Rydym yn cynnal Awdit Sgiliau Iaith Gymraeg i staff mewn sefydliadau ar draws y wlad er mwyn cynorthwyo a chefnogi Cynlluniau Gweithredu’r Safonau Iaith. Bydd ein tiwtor cymwys a phrofiadol yn asesu’r holl aelodau staff ar y dydd yn erbyn lefelau sgiliau ieithyddol cydnabyddedig, cenedlaethol. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i archebu asesiad.
rhd-consultancy-ymgynghoriaith-iaith-ar-daith-skills-audit-road-show-211116-pdf
Miliwn o siaradwyr erbyn 2050
Rachel Heath-Davies ar Radio Cymru yn trafod y darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050
http://www.bbc.co.uk/programmes/b07wzprs
Targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050
Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ar sefyllfa’r Gymraeg
Cyhoeddodd Gomisiynydd y Gymraeg y grynodeb hon ar sefyllfa’r iaith Gymraeg ym mis Awst 2016. Hanner ffordd rhwng y ddau Gyfrifiad, mae’n adroddiad amserol 5 mlynedd.
Gwerthusiad o’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
Mae Gwerthusiad o’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae Arad yn nodi 21 o argymhellion i’r Llywodraeth, awdurdodau lleol, y Cynllun Sabothol a llawer mwy.
Defnydd o’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Bydd disgwyl i bob sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru brifffrydio gwasanaethau cyfrwng Cymraeg fel rhan integredig o'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
http://gov.wales/newsroom/healthandsocialcare/2016/160322mng/?skip=1&lang=cy
Cynllunio a’r iaith Gymraeg
O dan adran 11 o’r Ddeddf Cynllunio, mae’n ofynnol bellach i bob awdurdod cynllunio lleol, wrth baratoi neu ddiwygio’r cynllun datblygu lleol, ystyried yr effaith debygol y bydd y polisïau a’r safleoedd a ddyrennir yn ei chael ar y Gymraeg yn ei ardal.
Eisiau Gwybod Mwy?
Cysylltwch â ni a chael gwybod os gallwn eich helpu chi heddiw.