Loading...
Newyddion2019-12-31T14:08:26+00:00

Newyddion

Ar y dudalen hon mae’r newyddion diweddaraf ac adnoddau a linciau defnyddiol. Os hoffech mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu.

Gyda’n Gilydd – Strategaeth dysgu Cymraeg

Cyhoeddwyd Strategaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – y corff sydd yn arwain y maes dysgu Cymraeg i oedolion.

Amcan Strategol 1            Datblygu rhaglen arloesol o gyrsiau atyniadol ac addas i ddysgwyr gan wneud defnydd llawn o’r dechnoleg ddiweddaraf

Amcan Strategol 2            Datblygu cynlluniau arloesol i sicrhau cyfleoedd a chyd-destunau i’r dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus

Amcan Strategol 3            Sefydlu rhwydwaith o ddarparwyr er mwyn cynnig gwasanaeth o ragoriaeth

Amcan Strategol 4            Codi proffil y maes a chynyddu’r niferoedd sy’n dechrau cyrsiau ac yn parhau i ddysgu’r Gymraeg

Amcan Strategol 5            Sefydlu a chynnal gweithdrefnau i gefnogi’r gwasanaeth

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r strategaeth: http://dysgucymraeg.cymru/wp-content/uploads/2016/01/FINAL-CYMRAEG.pdf

Mewn ymateb i’r Strategaeth, mae’r Dr Rachel Heath-Davies yn edrych ymlaen at weld y cwricwlwm newydd yn datblygu, yn croesawu’r deunyddiau a chwrs lyfrau sydd yn cael eu hawduro ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at y Strategaeth Gweithle newydd. “Fel un sydd wedi cael profiad o ddatblygu hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus tiwtoriaid y maes, edrychaf ymlaen at y Strategaeth Datblygu Gweithlu newydd.” Dywedodd hefyd eu bod yn cydnabod yr her o gynyddu nifer y cyrsiau dwys ac yn croesawu’r amcanion a datblygiadau.

Mae YmgynghorIAITH yn darparu tipyn o hyfforddiant iaith ac edrychwn ymlaen at y potensial i gydweithio gyda’r Ganolfan i’r dyfodol.

Gan |Ebrill 13, 2017|Dolenni Defnyddiol, Newyddion|

Iaith ar Daith

Heddiw, yr ydym wedi lansio Iaith ar Daith ar draws Cymru. Rydym yn cynnal Awdit Sgiliau Iaith Gymraeg i staff mewn sefydliadau ar draws y wlad er mwyn cynorthwyo a chefnogi Cynlluniau Gweithredu’r Safonau Iaith. Bydd ein tiwtor cymwys a phrofiadol yn asesu’r holl aelodau staff ar y dydd yn erbyn lefelau sgiliau ieithyddol cydnabyddedig, cenedlaethol. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i archebu asesiad.

rhd-consultancy-ymgynghoriaith-iaith-ar-daith-skills-audit-road-show-211116-pdf

Gan |Tachwedd 21, 2016|Newyddion|

Cynllunio a’r iaith Gymraeg

O dan adran 11 o’r Ddeddf Cynllunio, mae’n ofynnol bellach i bob awdurdod cynllunio lleol, wrth baratoi neu ddiwygio’r cynllun datblygu lleol, ystyried yr effaith debygol y bydd y polisïau a’r safleoedd a ddyrennir yn ei chael ar y Gymraeg yn ei ardal.

http://gov.wales/newsroom/planning/2016/new-legislation-on-welsh-language-in-planning-comes-into-force/?skip=1&lang=cy

Gan |Gorffennaf 25, 2016|Newyddion|

Eisiau Gwybod Mwy?

Cysylltwch â ni a chael gwybod os gallwn eich helpu chi heddiw.

Cysylltwch â ni

Gwybodaeth a Linciau Defnyddiol

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei chynigion i gryfhau seilwaith y Gymraeg.Polisi cenedlaethol seilwaith ieithyddol y Gymraeg

Y Gymraeg mewn addysg: Cynllun Gweithredu 2017 – 22

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Gynllun Gweithredu ar y Gymraeg mewn addysg ar gyfer y bedair blynedd nesaf. Mae’r Cynllun hwn yn un o’r cynlluniau gweithredu sydd yn deillio o’r strategaeth Cymraeg 2050 ac yn amlinellu sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae targedau yn y Cynllun ar sut [...]

Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg

Dyma linc at strategaeth Llywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd y darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ceir yma hefyd, Rhaglen Waith, sef Cynllun Gweithredu yn amlinellu sut yr ydynt yn bwriadu cyrraedd y darged. http://gov.wales/topics/welshlanguage/welsh-language-strategy-and-policies/cymraeg-2050-welsh-language-strategy/?lang=cy

Gyda’n Gilydd – Strategaeth dysgu Cymraeg

Cyhoeddwyd Strategaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – y corff sydd yn arwain y maes dysgu Cymraeg i oedolion. Amcan Strategol 1            Datblygu rhaglen arloesol o gyrsiau atyniadol ac addas i ddysgwyr gan wneud defnydd llawn o’r dechnoleg ddiweddaraf Amcan Strategol 2            Datblygu cynlluniau arloesol i sicrhau cyfleoedd a chyd-destunau i’r dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus Amcan Strategol 3            [...]

Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ar sefyllfa’r Gymraeg

Cyhoeddodd Gomisiynydd y Gymraeg y grynodeb hon ar sefyllfa’r iaith Gymraeg ym mis Awst 2016. Hanner ffordd rhwng y ddau Gyfrifiad, mae’n adroddiad amserol 5 mlynedd. http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Adroddiad%205%20Mlynedd%20crynodeb%20Gwefan.pdf

Mwy na geiriau… Fframwaith strategaeth olynol

Ar 22 Mawrth 2016, lansiwyd Fframwaith Strategol Olynol Mwy na geiriau.... i gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Yr Athro Mark Drakeford AC.   Wrth galon y strategaeth mae'r syniad bod medru defnyddio eich iaith eich hun yn rhan annatod o ofal - nid yn rhywbeth ychwanegol, dewisol. http://gov.wales/docs/dhss/publications/160317morethanjustwordscy.pdf

Tuag at 2030

Mae’r Athro Hazelkorn wedi cyhoeddi adolygiad pwysig o addysg ol-16 yng Nghymru, gan gyfeirio’n benodol at rôl a swyddogaeth y Cyngor Cyllido Addysg Uwch, i’r dyfodol. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Addysgu Athrawon Yfory

Yr Athro John Furlong Adroddiad ar ddyfodol Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

PISA 2012

Mae tua 510,000 o fyfyrwyr o 65 economi wedi cymryd rhan ym mhrofion PISA 2012 sy’n asesu darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a oedd yn cynrychioli tua 28 miliwn o fyfyrwyr 15 oed ar draws y byd. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Tribiwnlys y Gymraeg

Mae Tribiwnlys y Gymraeg yn gorff statudol annibynnol. Fe’i sefydlwyd ym mis Ebrill 2015 o dan Adran 120 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Ei swyddogaeth yw delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg o ran Safonau’r Gymraeg. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Comisiynydd y Gymraeg

Mae Comsiynydd y Gymraeg yn gorff annibynnol a sefydlwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru, monitro’r Cynlluniau Iaith presennol, a gosod Safonau’r Gymraeg ar gyrff. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru; creu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg; sefydlu Comisiynydd y Gymraeg; creu Panel Ymgynghori Comisiynydd y Gymraeg; galluogi hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg; a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; creu safonau parthed y Gymraeg (gan gynnwys dyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny a hawliau yn [...]

Go to Top