Newyddion
Ar y dudalen hon mae’r newyddion diweddaraf ac adnoddau a linciau defnyddiol. Os hoffech mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni a byddwn yn eich helpu.
Cyrsiau Arlein
Mae dosbarthiadau Cymraeg ar-lein wedi cwblhau’n llwyddiannus. Er y cyfyngderau oherwydd covid-19, aeth ein cyrsiau hyfforddiant yn y gweithle i gyd ar-lein yn syth a chwblhaodd y staff i gyd eu cyrsiau.
Tendr
Mae RHD Consultancy/ YmgynghorIAITH wedi ennill y tendr i ymgymryd â’r prosiect ymgynghoriaeth ar y Gymraeg ar ran Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.
Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei chynigion i gryfhau seilwaith y Gymraeg.
Y Gymraeg mewn addysg: Cynllun Gweithredu 2017 – 22
Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Gynllun Gweithredu ar y Gymraeg mewn addysg ar gyfer y bedair blynedd nesaf. Mae’r Cynllun hwn yn un o’r cynlluniau gweithredu sydd yn deillio o’r strategaeth Cymraeg 2050 ac yn amlinellu sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Mae targedau yn y Cynllun ar sut i gynyddu niferoedd sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddu nifer a chapasiti athrawon i ddysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.
http://gov.wales/docs/dcells/publications/171212-welsh-in-education-action-plan-2017-21-cy.pdf
Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg
Dyma linc at strategaeth Llywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd y darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ceir yma hefyd, Rhaglen Waith, sef Cynllun Gweithredu yn amlinellu sut yr ydynt yn bwriadu cyrraedd y darged.
Rhaglen Hyfforddiant
RHD Consultancy YmgynghorIAITH – Taflen cyrsiau hyfforddi [Cymraeg] pdf
Heddiw rydym yn cyhoeddi Rhaglen Hyfforddiant sy’n rhestri’r holl wahanol mathau o hyfforddiant corfforaethol yr ydym yn ei gynnig. Mae cyrsiau ar sgiliau cyflwyno a siarad cyhoeddus, hyfforddiant ar reoli pobl a phrosiectau, cyrsiau ar beth yw gwerth am arian, neu beth am gwrs ar lywodraethant a hyfforddiant i lywodraethwyr ac aelodau byrddau? Darperir pob cwrs yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn ogystal, mae nifer fawr o gyrsiau ar gynllunio polisïau iaith Gymraeg, gwneud asesiadau traw effaith a sut mae ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau yn eich sefydliad.
Ffoniwch 029 22362106 i ofyn am gyrsiau.
Cyrsiau Hyfforddiant AM DDIM
Mae Cynllun cyffrous, newydd ar droed, sef cyfleoedd arbennig i hyfforddi a gwella sgiliau iaith Gymraeg yn y gwaith yn genedlaethol. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith newydd yn arloesol ac yn rhoi cyfle i weithleoedd fuddsoddi yn eu staff a gwella gwasanaethau yn y Gymraeg.
Cyhoeddodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fod RHD YmgynghorIAITH yn ddarparwr cydnabyddedig ar gyfer y cyrsiau hyfforddiant o dan y Cynllun. Dywedodd y Gyfarwyddwraig Reoli, “Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi bod RHD CONSULTANCY yn un o’r darparwyr. Edrychwn ymlaen at ddarparu cyrsiau dwys ar gyfer Cymraeg Gwaith yn fuan iawn. Dyma gyfle euraidd i ddatblygu’ch gweithle am ddim. Anogaf bob cwmni i gymryd mantais o’r Cynllun arbennig hwn. Edrychwn ymlaen yn fawr fel tîm i ddarparu hyfforddiant o ansawdd ac sydd wedi’i deilwra yn llwyr i Gymraeg Gwaith.”
Am fwy o wybodaeth ar y lansiad a’r cyrsiau sydd ar gael, http://dysgucymraeg.cymru/category/newyddion
Cymwys am Oes
Gweledigaeth hir dymor Llywodraeth Cymru ar addysg yng Nghymru.
Adnabod a Defnyddio’r Sgiliau Sydd yn y Gweithlu
Pa sgiliau Cymraeg sydd yn y gweithle? Canfyddiadau Iaith ar Daith
Credwch neu beidio, mae tipyn o sgiliau iaith Gymraeg ymysg ein staff yn ein gweithleoedd. Dyna oedd un o ganfyddiadau ein prosiect diweddar ar awdit sgiliau Cymraeg Gwaith.
Gwnaeth YmggynghorIAITH gwblhau prosiect rhwng fis Rhagfyr 2016 a mis Mawrth 2017 yn asesu sgiliau mewn gweithleoedd amrywiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Wedi asesiadau trylwyr, diben y gwaith oedd cyflwyno adroddiad i’r gweithleoedd unigol ar sgiliau ieithyddol eu gweithlu, ar y 4 sgil: deall, darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg.
Canfyddiadau
O ddadansoddi’r data o’r sampl, dyma grynodeb o’r canfyddiadau:
- Roedd rhywfaint o Gymraeg gan y mwyafrif o’r gweithlu a samplwyd. Hynny yw, aseswyd mwy o staff a oedd yn meddu ar rywfaint o sgiliau iaith nag aelodau staff heb unrhyw Gymraeg. Yn wir, roedd y mwyafrif o’r gweithlu yn meddu ar rywfaint o Gymraeg. Mae hyn yn ddiddorol wrth ystyried bod y Cyfrifiad ar y poblogaeth yn gyffredinol yn is.
- Canfuwyd bod y rhan fwyaf yn gallu cyfarch yn elfennol yn y Gymraeg ac fe fyddai’r mwyafrif o staff yn gallu cyfarch ar y ffôn yn ddwyieithog, er enghraifft. Mae’r canfyddiad yma yn gadarnhaol iawn o ystyried gofynion yn y Safonau iaith newydd i holl staff sefydliadau yn y sector gyhoeddus (a’r tu hwnt) gyfarch yn y Gymraeg.
- Ar y cyfan, yr oedd y rhan fwyaf helaeth o’r gweithlu yn gadarnhaol am y Gymraeg ac yn gadarnhaol am bwysigrwydd darparu gwasanaethau yn y Gymraeg i’w cwsmeriaid.
- Yn ychwanegol, fe nodwyd diddordeb gan nifer o weithwyr mewn dysgu Gymraeg a gwella’u sgiliau ieithyddol ar gyfer pwrpasau Eto, yr oedd y canfyddiadau hyn yn gadarnhaol ac yn dangos bod potensial am fwy o hyfforddiant ar Gymraeg Gwaith.
- Yn ddiddorol, lleiafrif oedd wedi derbyn hyfforddiant iaith ac er y diddordeb cyffredinol, doedd dim llawer â chynlluniau pendant i gymryd y cam nesaf i ddysgu/ gymryd hyfforddiant.
O’r siart wedi’i atodi, fe welwch y gwahanol lefelau ieithyddol a gasglwyd o’r sampl. Sylwch ar y lefelau Uwch ac i fyny a ganfuwyd. Aseswyd mwy ar y lefelau 5 (yr uchaf) nag unrhyw lefel arall. Er yn gadarnhaol iawn, rhaid cydnabod, mae mater samplo yw hyn. Mae’n bosibl bod yr ymarfer asesu wedi denu gweithwyr a oedd yn meddu ar sgiliau ac eisiau datblygu’r sgiliau hynny.
Argymhellion
Ar sail yr wybodaeth a gasglwyd, dyma grynodeb o’r argymhellion i sefydliadau:
- Cwblhau asesiad sgiliau trylwyr sy’n cynnwys y 4 sgil ac yn seiliedig ar lefelau cenedlaethol/ rhyngwladol cydnabyddedig.
- Cynlluniwch sgiliau iaith y gweithlu fel unrhyw sgil arall. Defnyddiwch ddata cadarn (h.y. wedi cwblhau asesiad sgiliau corfforaethol) i lunio Strategaeth Hyfforddiant Iaith fydd yn rhoi sail i gynllunio hyfforddiant priodol a strategol ar gyfer eich gweithlu.
- Gan adeiladu ar y sgiliau ieithyddol sylfaenol sydd yn eich gweithlu yn barod, trefnwch hyfforddiant a chanllawiau syml i staff ar gyfarch ar y ffôn ac yn y dderbynfa yn y Gymraeg ac annog y gweithlu i gyd i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw yn barod, drwy ymgyrch Defnyddiwch eich Cymraeg.
- Ymchwiliwch i’r mathau o gefnogaeth fyddai’r gweithlu yn dymuno ei weld e.e. sesiynau sgwrsio, mentor, gwasanaeth gwirio testun ysgrifenedig, hyfforddiant un i un ayyb.
- Cymerwch gyngor ar y mathau o h yfforddiant sydd orau ar gyfer staff sydd yn meddu ar sgiliau Cymraeg yn barod. Gall buddsoddi mewn unigolion ar lefelau uwch a hyfforddiant wedi’i deilwra, fod yn well gwerth am arian na darparu cyrsiau i ddechreuwyr pur yn unig.
Ôl Nodyn
Lluniwyd yr erthygl er mwyn nodi faint o Gymraeg sydd eisoes mewn gweithleoedd ac i bwysleisio pwysigrwydd adnabod a buddsoddi mewn sgiliau Cymraeg y gweithlu h.y. adeiladu ar y sgiliau a diddordeb sydd eisoes ar gael.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu sgwrs am hyfforddiant iaith a chynllunio ieithyddol, mae croeso i chi gysylltu. [email protected]
Methodoleg – Tynnwyd yr wybodaeth o sampl o weithleoedd yn y sector cyhoeddus ar draws de Cymru. Sampl strategol ydoedd ac nid sampl ar hap ac felly ddim yn gynrychioliadol o’r boblogaeth. Er mwyn parchu cyfrinachedd y prosiect, mae enwau’r gweithleoedd a aseswyd yn gyfrinachol a does dim modd rhannu data arnynt.
rhd-consultancy-ymgynghoriaith-iaith-ar-daith-skills-audit-road-show-211116-pdf
Cyhoeddiad o £3miliwn ar gyfer hyfforddiant iaith yn y gweithle
Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd £3m o gyllideb ychwanegol ar gael i ddatblygu dysgu’r Gymraeg yn y gweithle, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflwyno’r rhaglen beilot ‘Cymraeg Gwaith/ Work Welsh’. Cewch fwy o wybodaeth yma ar y Cynllun.
Nod Cymraeg Gwaith yw cynnig cyfleoedd i ystod o weithwyr mewn gwahanol sectorau i ddysgu a gwella’u Cymraeg er mwyn ei defnyddio’n hyderus yn y gweithle a chwrdd ag anghenion busnes eu sefydliadau.
Mae’r Cynllun yn cynnwys:
- Am DDIM – Cyrsiau ar-lein ar Gymraeg sylfaenol
- Am DDIM – Cyrsiau dwys ar bob lefel ac ar gael ar draws Cymru
- Am DDIM – Cyrsiau preswyl pum niwrnod er mwyn codi hyder
Mae’r Cynllun yma yn rhoi cyfle unigryw a chyffrous i ddysgu Cymraeg yn y gwaith.
Eisiau Gwybod Mwy?
Cysylltwch â ni a chael gwybod os gallwn eich helpu chi heddiw.