Loading...
News & Links2019-10-26T09:33:57+01:00

Latest News

Here you will find the latest news as well as useful resources and links. If you would like more information, let us know and we’ll see if we can help directly.

Y Gymraeg mewn addysg: Cynllun Gweithredu 2017 – 22

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Gynllun Gweithredu ar y Gymraeg mewn addysg ar gyfer y bedair blynedd nesaf. Mae’r Cynllun hwn yn un o’r cynlluniau gweithredu sydd yn deillio o’r strategaeth Cymraeg 2050 ac yn amlinellu sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae targedau yn y Cynllun ar sut i gynyddu niferoedd sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd cynyddu nifer a chapasiti athrawon i ddysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

http://gov.wales/docs/dcells/publications/171212-welsh-in-education-action-plan-2017-21-cy.pdf

Rhaglen Hyfforddiant

RHD Consultancy YmgynghorIAITH – Taflen cyrsiau hyfforddi [Cymraeg] pdf

Heddiw rydym yn cyhoeddi Rhaglen Hyfforddiant sy’n rhestri’r holl wahanol mathau o hyfforddiant corfforaethol yr ydym yn ei gynnig. Mae cyrsiau ar sgiliau cyflwyno a siarad cyhoeddus, hyfforddiant ar reoli pobl a phrosiectau, cyrsiau ar beth yw gwerth am arian, neu beth am gwrs ar lywodraethant a hyfforddiant i lywodraethwyr ac aelodau byrddau? Darperir pob cwrs yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn ogystal, mae nifer fawr o gyrsiau ar gynllunio polisïau iaith Gymraeg, gwneud asesiadau traw effaith a sut mae ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau yn eich sefydliad.

Ffoniwch 029 22362106 i ofyn am gyrsiau.

Cyrsiau Hyfforddiant AM DDIM

Mae Cynllun cyffrous, newydd ar droed, sef cyfleoedd arbennig i hyfforddi a gwella sgiliau iaith Gymraeg yn y gwaith yn genedlaethol. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith newydd yn arloesol ac yn rhoi cyfle i weithleoedd fuddsoddi yn eu staff a gwella gwasanaethau yn y Gymraeg.

Cyhoeddodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fod RHD YmgynghorIAITH yn ddarparwr cydnabyddedig ar gyfer y cyrsiau hyfforddiant o dan y Cynllun. Dywedodd y Gyfarwyddwraig Reoli, “Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi bod RHD CONSULTANCY yn un o’r darparwyr. Edrychwn ymlaen at ddarparu cyrsiau dwys ar gyfer Cymraeg Gwaith yn fuan iawn. Dyma gyfle euraidd i ddatblygu’ch gweithle am ddim. Anogaf bob cwmni i gymryd mantais o’r Cynllun arbennig hwn. Edrychwn ymlaen yn fawr fel tîm i ddarparu hyfforddiant o ansawdd ac sydd wedi’i deilwra yn llwyr i Gymraeg Gwaith.”

Am fwy o wybodaeth ar y lansiad a’r cyrsiau sydd ar gael, http://dysgucymraeg.cymru/category/newyddion

Adnabod a Defnyddio’r Sgiliau Sydd yn y Gweithlu

Pa sgiliau Cymraeg sydd yn y gweithle? Canfyddiadau Iaith ar Daith

Credwch neu beidio, mae tipyn o sgiliau iaith Gymraeg ymysg ein staff yn ein gweithleoedd. Dyna oedd un o ganfyddiadau ein prosiect diweddar ar awdit sgiliau Cymraeg Gwaith.

Gwnaeth YmggynghorIAITH gwblhau prosiect rhwng fis Rhagfyr 2016 a mis Mawrth 2017 yn asesu sgiliau mewn gweithleoedd amrywiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Wedi asesiadau trylwyr, diben y gwaith oedd cyflwyno adroddiad i’r gweithleoedd unigol ar sgiliau ieithyddol eu gweithlu, ar y 4 sgil: deall, darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg.

Canfyddiadau

O ddadansoddi’r data o’r sampl, dyma grynodeb o’r canfyddiadau:

  • Roedd rhywfaint o Gymraeg gan y mwyafrif o’r gweithlu a samplwyd. Hynny yw, aseswyd mwy o staff a oedd yn meddu ar rywfaint o sgiliau iaith nag aelodau staff heb unrhyw Gymraeg. Yn wir, roedd y mwyafrif o’r gweithlu yn meddu ar rywfaint o Gymraeg. Mae hyn yn ddiddorol wrth ystyried bod y Cyfrifiad ar y poblogaeth yn gyffredinol yn is.
  • Canfuwyd bod y rhan fwyaf yn gallu cyfarch yn elfennol yn y Gymraeg ac fe fyddai’r mwyafrif o staff yn gallu cyfarch ar y ffôn yn ddwyieithog, er enghraifft. Mae’r canfyddiad yma yn gadarnhaol iawn o ystyried gofynion yn y Safonau iaith newydd i holl staff sefydliadau yn y sector gyhoeddus (a’r tu hwnt) gyfarch yn y Gymraeg.
  • Ar y cyfan, yr oedd y rhan fwyaf helaeth o’r gweithlu yn gadarnhaol am y Gymraeg ac yn gadarnhaol am bwysigrwydd darparu gwasanaethau yn y Gymraeg i’w cwsmeriaid.
  • Yn ychwanegol, fe nodwyd diddordeb gan nifer o weithwyr mewn dysgu Gymraeg a gwella’u sgiliau ieithyddol ar gyfer pwrpasau Eto, yr oedd y canfyddiadau hyn yn gadarnhaol ac yn dangos bod potensial am fwy o hyfforddiant ar Gymraeg Gwaith.
  • Yn ddiddorol, lleiafrif oedd wedi derbyn hyfforddiant iaith ac er y diddordeb cyffredinol, doedd dim llawer â chynlluniau pendant i gymryd y cam nesaf i ddysgu/ gymryd hyfforddiant.

O’r siart wedi’i atodi, fe welwch y gwahanol lefelau ieithyddol a gasglwyd o’r sampl. Sylwch ar y lefelau Uwch ac i fyny a ganfuwyd. Aseswyd mwy ar y lefelau 5 (yr uchaf) nag unrhyw lefel arall. Er yn gadarnhaol iawn, rhaid cydnabod, mae mater samplo yw hyn. Mae’n bosibl bod yr ymarfer asesu wedi denu gweithwyr a oedd yn meddu ar sgiliau ac eisiau datblygu’r sgiliau hynny.

Argymhellion

Ar sail yr wybodaeth a gasglwyd, dyma grynodeb o’r argymhellion i sefydliadau:

  1. Cwblhau asesiad sgiliau trylwyr sy’n cynnwys y 4 sgil ac yn seiliedig ar lefelau cenedlaethol/ rhyngwladol cydnabyddedig.
  2. Cynlluniwch sgiliau iaith y gweithlu fel unrhyw sgil arall. Defnyddiwch ddata cadarn (h.y. wedi cwblhau asesiad sgiliau corfforaethol) i lunio Strategaeth Hyfforddiant Iaith fydd yn rhoi sail i gynllunio hyfforddiant priodol a strategol ar gyfer eich gweithlu.
  3. Gan adeiladu ar y sgiliau ieithyddol sylfaenol sydd yn eich gweithlu yn barod, trefnwch hyfforddiant a chanllawiau syml i staff ar gyfarch ar y ffôn ac yn y dderbynfa yn y Gymraeg ac annog y gweithlu i gyd i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw yn barod, drwy ymgyrch Defnyddiwch eich Cymraeg.
  4. Ymchwiliwch i’r mathau o gefnogaeth fyddai’r gweithlu yn dymuno ei weld e.e. sesiynau sgwrsio, mentor, gwasanaeth gwirio testun ysgrifenedig, hyfforddiant un i un ayyb.
  5. Cymerwch gyngor ar y mathau o h yfforddiant sydd orau ar gyfer staff sydd yn meddu ar sgiliau Cymraeg yn barod. Gall buddsoddi mewn unigolion ar lefelau uwch a hyfforddiant wedi’i deilwra, fod yn well gwerth am arian na darparu cyrsiau i ddechreuwyr pur yn unig.

Ôl Nodyn

Lluniwyd yr erthygl er mwyn nodi faint o Gymraeg sydd eisoes mewn gweithleoedd ac i bwysleisio pwysigrwydd adnabod a buddsoddi mewn sgiliau Cymraeg y gweithlu h.y. adeiladu ar y sgiliau a diddordeb sydd eisoes ar gael.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu sgwrs am hyfforddiant iaith a chynllunio ieithyddol, mae croeso i chi gysylltu. [email protected]

Methodoleg – Tynnwyd yr wybodaeth o sampl o weithleoedd yn y sector cyhoeddus ar draws de Cymru. Sampl strategol ydoedd ac nid sampl ar hap ac felly ddim yn gynrychioliadol o’r boblogaeth. Er mwyn parchu cyfrinachedd y prosiect, mae enwau’r gweithleoedd a aseswyd yn gyfrinachol a does dim modd rhannu data arnynt.

 

rhd-consultancy-ymgynghoriaith-iaith-ar-daith-skills-audit-road-show-211116-pdf

Cyhoeddiad o £3miliwn ar gyfer hyfforddiant iaith yn y gweithle

Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd £3m o gyllideb ychwanegol ar gael i ddatblygu dysgu’r Gymraeg yn y gweithle, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflwyno’r rhaglen beilot ‘Cymraeg Gwaith/ Work Welsh’. Cewch fwy o wybodaeth yma ar y Cynllun.

Nod Cymraeg Gwaith yw cynnig cyfleoedd i ystod o weithwyr mewn gwahanol sectorau i ddysgu a gwella’u Cymraeg er mwyn ei defnyddio’n hyderus yn y gweithle a chwrdd ag anghenion busnes eu sefydliadau.

Mae’r Cynllun yn cynnwys:

  • Am DDIM – Cyrsiau ar-lein ar Gymraeg sylfaenol
  • Am DDIM – Cyrsiau dwys ar bob lefel ac ar gael ar draws Cymru
  • Am DDIM – Cyrsiau preswyl pum niwrnod er mwyn codi hyder

Mae’r Cynllun yma yn rhoi cyfle unigryw a chyffrous i ddysgu Cymraeg yn y gwaith.

Gyda’n Gilydd – Strategaeth dysgu Cymraeg

Cyhoeddwyd Strategaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – y corff sydd yn arwain y maes dysgu Cymraeg i oedolion.

Amcan Strategol 1            Datblygu rhaglen arloesol o gyrsiau atyniadol ac addas i ddysgwyr gan wneud defnydd llawn o’r dechnoleg ddiweddaraf

Amcan Strategol 2            Datblygu cynlluniau arloesol i sicrhau cyfleoedd a chyd-destunau i’r dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus

Amcan Strategol 3            Sefydlu rhwydwaith o ddarparwyr er mwyn cynnig gwasanaeth o ragoriaeth

Amcan Strategol 4            Codi proffil y maes a chynyddu’r niferoedd sy’n dechrau cyrsiau ac yn parhau i ddysgu’r Gymraeg

Amcan Strategol 5            Sefydlu a chynnal gweithdrefnau i gefnogi’r gwasanaeth

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r strategaeth: http://dysgucymraeg.cymru/wp-content/uploads/2016/01/FINAL-CYMRAEG.pdf

Mewn ymateb i’r Strategaeth, mae’r Dr Rachel Heath-Davies yn edrych ymlaen at weld y cwricwlwm newydd yn datblygu, yn croesawu’r deunyddiau a chwrs lyfrau sydd yn cael eu hawduro ar hyn o bryd, ac yn edrych ymlaen at y Strategaeth Gweithle newydd. “Fel un sydd wedi cael profiad o ddatblygu hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus tiwtoriaid y maes, edrychaf ymlaen at y Strategaeth Datblygu Gweithlu newydd.” Dywedodd hefyd eu bod yn cydnabod yr her o gynyddu nifer y cyrsiau dwys ac yn croesawu’r amcanion a datblygiadau.

Mae YmgynghorIAITH yn darparu tipyn o hyfforddiant iaith ac edrychwn ymlaen at y potensial i gydweithio gyda’r Ganolfan i’r dyfodol.

Iaith ar Daith

Heddiw, yr ydym wedi lansio Iaith ar Daith ar draws Cymru. Rydym yn cynnal Awdit Sgiliau Iaith Gymraeg i staff mewn sefydliadau ar draws y wlad er mwyn cynorthwyo a chefnogi Cynlluniau Gweithredu’r Safonau Iaith. Bydd ein tiwtor cymwys a phrofiadol yn asesu’r holl aelodau staff ar y dydd yn erbyn lefelau sgiliau ieithyddol cydnabyddedig, cenedlaethol. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i archebu asesiad.

rhd-consultancy-ymgynghoriaith-iaith-ar-daith-skills-audit-road-show-211116-pdf

Want to know more?

Get in touch and find out if we can help you today.

Contact Us

Useful Information & Links

Plantlife

Elusen gadwriaeth ydy Plantlife sy’n gweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol i achub blodau, planhigion a ffwngi gwyllt sydd o dan bygythiad ac y mae’n berchen ar oddeutu 4,500 erw o warchodfeydd natur yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr. Mae gan Plantlife 11,000 o aelodau a chefnogwyr a HRH Tywysog Cymru ydy ei Noddwr. Mae Cymru yn gartref i 23 o [...]

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Cynllun Datblygu Lleol newydd

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrthi yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd yn 2019 a chomisiynwyd RHD Consultancy Cyf i weithio ar gyfres o asesiadau traw effaith ar y Gymraeg. Gwnaethom adolygu’r polisi cyfredol ar gynllunio a’r iaith Gymraeg ac ymchwiliom y ddeddfwriaeth a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes polisi cynllunio gan gynnwys y Nodyn Technegol Cyngor 20 newydd a’r [...]

Awdurdod Cyllid Cymru – Strategaeth ar y Gymraeg

Cwrteisi, Tyfu, Hybu yw enw strategaeth Awdurdod Cyllid Cymru ar y Gymraeg, a ysgrifennwyd gan RHD Consultancy Cyf. Sefydlwyd yr Awdurdod newydd i gasglu refeniw trethu i Gymru yn 2017 a gofynnwyd i ni lunio strategaeth arloesol a phellgyrhaeddol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Gweithiom yn agos gyda’r tîm arwain uwch a’r holl staff i gydweithio a chyd-greu’r strategaeth. [...]

Prifysgol Caerdydd

Penodwyd Rachel fel mentor staff i mi yn ôl yn 2012 pan gychwynnais mewn swydd fel Cydymaith Ymchwil. Roeddwn wedi cymryd y swydd ar ôl cyflwyno doethuriaeth a symud o Ogledd Cymru, felly er fy mod yn edrych ymlaen at y rôl newydd, roeddwn ar goll braidd hefyd! Darparodd Rachel oriau o drafod, a chyngor gwerthfawr i mi ynglŷn â sut i ddatblygu [...]

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Trefnodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i uwch staff ac, wedi hynny, gyfres o gyrsiau Cymraeg i staff ar draws y sefydliad. Roedd hyn yn strategol a phwrpasol er mwyn cynyddu diddordeb y staff a’u lefel ymgysylltu ac er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol am y safonau cenedlaethol. Gwrandawodd Rachel a’i thîm ar ein gofynion a theilwra pecyn o ddarpariaeth hyfforddiant yn [...]

Darparu cyngor strategol i adran Adnoddau Dynol Grŵp Colegau NPTC ar asesu a chynllunio adnoddau sgiliau iaith y sefydliad

Yn ystod 2015-16, cymeradwywyd Strategaeth Sgiliau Iaith y coleg gan y Tîm Uwch-Reoli a Bwrdd y Gorfforaeth. Dechreuodd y broses o weithredu’r Strategaeth ym mis Gorffennaf 2016 a’r cam cyntaf oedd gofyn i bob rheolwr a phennaeth ysgol academaidd gwblhau awdit o anghenion sgiliau iaith pob swyddogaeth a swydd benodol o fewn eu cylch gwaith. Ym mis Rhagfyr 2016, comisiynwyd [...]

Asesu Sgiliau Staff Cyngor Dinas Casnewydd

Daeth Rachel i Gyngor Dinas Casnewydd i gynnal asesiadau iaith gyda staff. Bu’n brofiad diddorol i’r unigolion a’r sefydliad. O siarad â’r unigolion o flaen llaw roedd nifer ohonynt yn canolbwyntio ar eu diffygion, ond daethant yn fwy hyderus wrth siarad â Rachel a gwerthfawrogasant y cydnabyddiaeth o’u cyrhaeddiad h.y. beth yr ydynt yn gallu eu gwneud. Rhoddodd ymweliad Rachel [...]

Cyrsiau Arlein

Mae dosbarthiadau Cymraeg ar-lein wedi cwblhau’n llwyddiannus. Er y cyfyngderau oherwydd covid-19, aeth ein cyrsiau hyfforddiant yn y gweithle i gyd ar-lein yn syth a chwblhaodd y staff i gyd eu cyrsiau.

Tendr

Mae RHD Consultancy/ YmgynghorIAITH wedi ennill y tendr i ymgymryd â’r prosiect ymgynghoriaeth ar y Gymraeg ar ran Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei chynigion i gryfhau seilwaith y Gymraeg.Polisi cenedlaethol seilwaith ieithyddol y Gymraeg

Y Gymraeg mewn addysg: Cynllun Gweithredu 2017 – 22

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Gynllun Gweithredu ar y Gymraeg mewn addysg ar gyfer y bedair blynedd nesaf. Mae’r Cynllun hwn yn un o’r cynlluniau gweithredu sydd yn deillio o’r strategaeth Cymraeg 2050 ac yn amlinellu sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae targedau yn y Cynllun ar sut [...]

Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg

Dyma linc at strategaeth Llywodraeth Cymru er mwyn cyrraedd y darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ceir yma hefyd, Rhaglen Waith, sef Cynllun Gweithredu yn amlinellu sut yr ydynt yn bwriadu cyrraedd y darged. http://gov.wales/topics/welshlanguage/welsh-language-strategy-and-policies/cymraeg-2050-welsh-language-strategy/?lang=cy

Rhaglen Hyfforddiant

RHD Consultancy YmgynghorIAITH - Taflen cyrsiau hyfforddi [Cymraeg] pdf Heddiw rydym yn cyhoeddi Rhaglen Hyfforddiant sy’n rhestri’r holl wahanol mathau o hyfforddiant corfforaethol yr ydym yn ei gynnig. Mae cyrsiau ar sgiliau cyflwyno a siarad cyhoeddus, hyfforddiant ar reoli pobl a phrosiectau, cyrsiau ar beth yw gwerth am arian, neu beth am gwrs ar lywodraethant a hyfforddiant i lywodraethwyr ac [...]

Cyrsiau Hyfforddiant AM DDIM

Mae Cynllun cyffrous, newydd ar droed, sef cyfleoedd arbennig i hyfforddi a gwella sgiliau iaith Gymraeg yn y gwaith yn genedlaethol. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith newydd yn arloesol ac yn rhoi cyfle i weithleoedd fuddsoddi yn eu staff a gwella gwasanaethau yn y Gymraeg. Cyhoeddodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fod RHD YmgynghorIAITH yn ddarparwr cydnabyddedig ar gyfer y cyrsiau [...]

Cymwys am Oes

Gweledigaeth hir dymor Llywodraeth Cymru ar addysg yng Nghymru. http://gov.wales/topics/educationandskills/allsectorpolicies/qualified-for-life-an-educational-improvement-plan/?skip=1&lang=cy

Adnabod a Defnyddio’r Sgiliau Sydd yn y Gweithlu

Pa sgiliau Cymraeg sydd yn y gweithle? Canfyddiadau Iaith ar Daith Credwch neu beidio, mae tipyn o sgiliau iaith Gymraeg ymysg ein staff yn ein gweithleoedd. Dyna oedd un o ganfyddiadau ein prosiect diweddar ar awdit sgiliau Cymraeg Gwaith. Gwnaeth YmggynghorIAITH gwblhau prosiect rhwng fis Rhagfyr 2016 a mis Mawrth 2017 yn asesu sgiliau mewn gweithleoedd amrywiol yn y sector [...]

Cyhoeddiad o £3miliwn ar gyfer hyfforddiant iaith yn y gweithle

Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y bydd £3m o gyllideb ychwanegol ar gael i ddatblygu dysgu’r Gymraeg yn y gweithle, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyflwyno’r rhaglen beilot ‘Cymraeg Gwaith/ Work Welsh’. Cewch fwy o wybodaeth yma ar y Cynllun. Nod Cymraeg Gwaith yw cynnig cyfleoedd i ystod o weithwyr mewn gwahanol sectorau i ddysgu a gwella’u Cymraeg [...]

Gyda’n Gilydd – Strategaeth dysgu Cymraeg

Cyhoeddwyd Strategaeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – y corff sydd yn arwain y maes dysgu Cymraeg i oedolion. Amcan Strategol 1            Datblygu rhaglen arloesol o gyrsiau atyniadol ac addas i ddysgwyr gan wneud defnydd llawn o’r dechnoleg ddiweddaraf Amcan Strategol 2            Datblygu cynlluniau arloesol i sicrhau cyfleoedd a chyd-destunau i’r dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus Amcan Strategol 3            [...]

Iaith ar Daith

Heddiw, yr ydym wedi lansio Iaith ar Daith ar draws Cymru. Rydym yn cynnal Awdit Sgiliau Iaith Gymraeg i staff mewn sefydliadau ar draws y wlad er mwyn cynorthwyo a chefnogi Cynlluniau Gweithredu’r Safonau Iaith. Bydd ein tiwtor cymwys a phrofiadol yn asesu’r holl aelodau staff ar y dydd yn erbyn lefelau sgiliau ieithyddol cydnabyddedig, cenedlaethol. Os hoffech gymryd rhan, [...]

Miliwn o siaradwyr erbyn 2050

Rachel Heath-Davies ar Radio Cymru yn trafod y darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 http://www.bbc.co.uk/programmes/b07wzprs   Targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-36924562

Adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ar sefyllfa’r Gymraeg

Cyhoeddodd Gomisiynydd y Gymraeg y grynodeb hon ar sefyllfa’r iaith Gymraeg ym mis Awst 2016. Hanner ffordd rhwng y ddau Gyfrifiad, mae’n adroddiad amserol 5 mlynedd. http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/Adroddiad%205%20Mlynedd%20crynodeb%20Gwefan.pdf

Mwy na geiriau… Fframwaith strategaeth olynol

Ar 22 Mawrth 2016, lansiwyd Fframwaith Strategol Olynol Mwy na geiriau.... i gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Yr Athro Mark Drakeford AC.   Wrth galon y strategaeth mae'r syniad bod medru defnyddio eich iaith eich hun yn rhan annatod o ofal - nid yn rhywbeth ychwanegol, dewisol. http://gov.wales/docs/dhss/publications/160317morethanjustwordscy.pdf

Tuag at 2030

Mae’r Athro Hazelkorn wedi cyhoeddi adolygiad pwysig o addysg ol-16 yng Nghymru, gan gyfeirio’n benodol at rôl a swyddogaeth y Cyngor Cyllido Addysg Uwch, i’r dyfodol. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Addysgu Athrawon Yfory

Yr Athro John Furlong Adroddiad ar ddyfodol Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

PISA 2012

Mae tua 510,000 o fyfyrwyr o 65 economi wedi cymryd rhan ym mhrofion PISA 2012 sy’n asesu darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a oedd yn cynrychioli tua 28 miliwn o fyfyrwyr 15 oed ar draws y byd. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Tribiwnlys y Gymraeg

Mae Tribiwnlys y Gymraeg yn gorff statudol annibynnol. Fe’i sefydlwyd ym mis Ebrill 2015 o dan Adran 120 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Ei swyddogaeth yw delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau Comisiynydd y Gymraeg o ran Safonau’r Gymraeg. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Comisiynydd y Gymraeg

Mae Comsiynydd y Gymraeg yn gorff annibynnol a sefydlwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru, monitro’r Cynlluniau Iaith presennol, a gosod Safonau’r Gymraeg ar gyrff. Am fwy o wybodaeth Cliciwch Yma

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru; creu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg; sefydlu Comisiynydd y Gymraeg; creu Panel Ymgynghori Comisiynydd y Gymraeg; galluogi hybu a hwyluso defnydd y Gymraeg; a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; creu safonau parthed y Gymraeg (gan gynnwys dyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny a hawliau yn [...]

Gwerthusiad o’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Mae Gwerthusiad o’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae Arad yn nodi 21 o argymhellion i’r Llywodraeth, awdurdodau lleol, y Cynllun Sabothol a llawer mwy. http://gov.wales/docs/caecd/research/2016/160310-evaluation-welsh-medium-education-strategy-final-cy.pdf

Defnydd o’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Bydd disgwyl i bob sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru brifffrydio gwasanaethau cyfrwng Cymraeg fel rhan integredig o'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau. http://gov.wales/newsroom/healthandsocialcare/2016/160322mng/?skip=1&lang=cy

Cynllunio a’r iaith Gymraeg

O dan adran 11 o’r Ddeddf Cynllunio, mae’n ofynnol bellach i bob awdurdod cynllunio lleol, wrth baratoi neu ddiwygio’r cynllun datblygu lleol, ystyried yr effaith debygol y bydd y polisïau a’r safleoedd a ddyrennir yn ei chael ar y Gymraeg yn ei ardal. http://gov.wales/newsroom/planning/2016/new-legislation-on-welsh-language-in-planning-comes-into-force/?skip=1&lang=cy

Go to Top